A Moses a attebodd, ac a ddywedodd, Etto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti.
2 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwïalen.
3 Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarph: a Moses a giliodd rhagddi.
4 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wïalen yn ei law ef:
5 Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.
6 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahan-glwyfol fel yr eira.
7 Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef.
8 A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, etto y credant i lais yr ail arwydd.
9 A bydd, oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymmeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymmerech o’r afon yn waed ar y tir sych.
10 ¶ A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, O fy Arglwydd, ni bûm wr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.
11 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr Arglwydd?
12 Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyd â’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.
13 Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, attolwg, gyd â’r hwn a ddanfonych.
14 Ac ennynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon.
15 Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyd â’th enau di, a chyd â’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.
16 A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau.
17 Cymmer hefyd y wïalen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.
18 ¶ A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gâd i mi fyned, attolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aipht, a gweled a ydynt etto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.
19 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aipht; o herwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes.
20 A Moses a gymmerth ei wraig, a’i feibion, ac a’u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aipht: cymmerodd Moses hefyd wïalen Duw yn ei law.
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aipht, gwel i ti wneuthur ger bron Pharaoh yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.
22 A dywed wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel.
23 A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf-anedig.
24 ¶ A bu, ar y ffordd yn y lletty, gyfarfod o’r Arglwydd âg ef, a cheisio ei ladd ef.
25 Ond Sephorah a gymmerth gyllell lèm, ac a dorrodd ddïenwaediad ei mab, ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef; ac a ddywedodd, Dïau dy fod yn brïod gwaedlyd i mi.