Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

26 A’r Arglwydd a beidiodd âg ef: yna y dywedodd hi, Prïod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

27 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu âg ef ym mynydd Duw, ac a’i cusanodd ef.

28 A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd, yr hwn a’i hanfonasai ef, a’r holl arwyddion a orchymynasai efe iddo.

29 ¶ A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynnullasant holl henuriaid meibion Israel.

30 Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion y’ngolwg y bobl.

31 A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymmasant, ac a addolasant.


PENNOD V.

1 Pharaoh yn rhoddi sèn i Moses ac Aaron am eu cennadwriaeth: 5 yn ychwanegu tasg yr Israeliaid: 15 yn eu ceryddu hwynt am eu hachwynion. 21 Hwythau yn llefain yn erbyn Moses ac Aaron. 22 Moses yn cwyno wrth Dduw.

Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont wyl i mi yn yr anialwch.

2 A dywedodd Pharaoh, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandâwn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.

3 A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gâd i ni fyned, attolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf.

4 A dywedodd brenhin yr Aipht wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i’r bobl beidio â’u gwaith? ewch at eich beichiau.

5 Pharaoh hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â’u llwythau.

6 A gorchymynnodd Pharaoh, y dydd hwnnw, i’r rhai oedd feistriaid-gwaith ar y bobl a’u swyddogion, gan ddywedyd,

7 Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur priddfeini, megis o’r blaen; elant a chasglant wellt iddynt eu hunain.

8 A rhifedi y priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt; na leihêwch o hynny: canys segur ydynt, am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gâd i ni fyned ac aberthu i’n Duw.

9 Trymhâer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.

10 ¶ A meistriaid-gwaith y bobl, a’u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharaoh, Ni roddaf wellt i chwi.

11 Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leihêir dim o’ch gwaith.

12 A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aipht, i gasglu sofl yn lle gwellt.

13 A’r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorphenwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.

14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharaoh arnynt hwy, a dywedwyd, Paham na orphenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddyw, megis cyn hynny?

15 ¶ Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharaoh, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â’th weision?

16 Gwellt ni roddir i’th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a’th bobl di dy hun sydd ar y bai.

17 Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd. Gâd i ni fyned ac aberthu i’r Arglwydd.

18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; etto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini.

19 A swyddogion meibion Israel a’u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihêwch ddim o’ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.

20 ¶ A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharaoh:

21 A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i’n sawyr