13:15 Clywch, a gwrandewch; na falchiwch: canys yr ARGLWYDD a lefarodd.
13:16 Rhoddwch ogoniant i’r ARGLWYDD eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a’i wneuthur yn dywyllwch.
13:17 Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder; a’m llygaid gan wylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.
13:18 Dywed wrth y brenin a’r frenhines, Ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys disgynnodd eich pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd.
13:19 Dinasoedd y deau a gaeir, ac ni bydd a’u hagoro; Jwda i gyd a gaethgludir, yn llwyr y dygir hi i gaethiwed.
13:20 Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o’r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth?
13:21 Beth a ddywedi pan ymwelo â thi? canys ti a’u dysgaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor?
13:22 Ac o dywedi yn dy galon, Paham y digwydd hyn i mi? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre, ac y dinoethwyd dy sodlau.
13:23 A newidia yr Ethiopiad ei groen neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd a gwneuthur drwg.
13:24 Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch.
13:25 Dyma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr ARGLWYDD; am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd.
13:26 Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth.
13:27 Gwelais dy odineb a’th weryriad, brynti dy buteindra a’th ffieidd-dra ar y bryniau yn y meysydd. Gwae di, Jerw¬salem! a ymlanhei di? pa bryd bellach?
PENNOD 14
14:1 GAIR yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth.
14:2 Galara Jwda, a’i phyrth a lesgant; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerw¬salem a ddyrchafodd i fyny.
14:3 A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr: daethant i’r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelasant â’u llestri yn weigion: cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau.
14:4 Oblegid agennu o’r ddaear, am nad oedd glaw ar y ddaear, cywilyddiodd y llafurwyr, cuddiasant eu pennau.
14:5 Ie, yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac a’i gadawodd, am nad oedd gwellt.
14:6 A’r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel; yfasant wynt fel dreigiau: eu llygaid hwy a ballasant, am nad oedd gwellt.
14:7 O ARGLWYDD, er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i’th erbyn.
14:8 Gobaith Israel, a’i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith?
14:9 Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD, a’th enw di a elwir arnom: na ad ni.
14:10 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr ARGLWYDD hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â’u pechodau.
14:11 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni.
14:12 Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boethoffrwm a bwyd-offrwm, ni byddaf, bodlon iddynt: ond â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difaf hwynt.