Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/726

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

14:13 Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma.

14:14 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proff¬wydo i chwi.

14:15 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am y proffwydi sydd yn proff¬wydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proff¬wydi hynny.

14:16 A’r bobl y rhai y maent yn proff¬wydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a’r cleddyf; ac ni bydd neb i’w claddu, hwynt-hwy, na’u gwragedd, na’u meibion, na’u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.

14:17 Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys a briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac a phia tost iawn.

14:18 Os af fi allan i’r maes, wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf; ac o deuaf i mewn i’r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant.

14:19 Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion? paham y trewaist ni, ac nad oes i ni feddyginiaeth? disgwyliasom am hedd¬wch, ac nid oes daioni; ac am amser iachâd, ac wele flinder.

14:20 Yr ydym yn cydnabod, ARGLWYDD, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di.

14:21 Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant; cofia, na thor dy gyfamod â ni.

14:22 A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Onid ti yw efe, O ARGLWYDD ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.


PENNOD 15

º1 A DYWEDODD yr ARGLWYDD wrthyf, Pe safai Moses a Samuel ger fy mron, eto ni byddai fy serch ar y bobl yma; bwrw hwy allan o’m golwg, ac elont ymaith.; a Ac os dywedant wrthyt, I ba le yr

awn? tithau a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Y sawl sydd i angau, i angau; a’r sawl i’r cleddyf, i’r cleddyf; a’r sawl i’r newyn, i’r newyn; a’r sawl i gaethiwed, i gaethiwed.

º3 A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth, medd yr ARGLWYDD: y cleddyf, i ladd; a’r cwn, i larpio; ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaear, i ysu ac i ddifa.

º4 Ac a’u rhoddaf hwynt i’w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda; am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsakm.

º5 Canys pwy a drugarha wrthyt ti, O Jerwsalem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti?

º6 Tia’rngadewaist, medd yr ARGLWYDD, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a’th ddifethaf; myfi a flinais yn edifarhau.

º7 A mi a’u chwalaf hwynt a gwyntyll ym mhyrth y wlad: diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd.

º8 Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y roor: dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc, anrheithiwr ganol dydd; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi; a dychryn ar y ddinas.

º9 Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i’r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr AR¬GLWYDD.

º10 Gwae fi, fy mam, ymddwyn