Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/727

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i.

º11Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt; yn amser adfyd ac yn amser cystudd.

º12 A dyr haearn yr haearn o’r gogledd, a’’r dur?

º13 Dy gyfoeth a’th drysorau a roddaf yn ysbail, nid am werth, ond oblegid dy holl bechodau, trwy dy holl derfynau.

"14 Gwnaf i ti fyned hefyd gyda’th elyrt- ion i dir nid adwaenost: canys’tan a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysg.

º15 Ti a wyddost, ARGLWYDD; cofia fi, ac ymwêl â mi, a dial drosofar fy erhdwyr; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros: gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di.

º16 Dy eiriau a gaed, a mi a’u bwyteais hwynt; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnaf fi, O ARGLWYDD DDUW y lluoedd.

º17 Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr, ac nid ymhyfrydais: eistedd¬ais fy hunan oherwydd dy law di; canys ti a’m llenwaist i o lid.

º18 Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol? a’m pla yn anaele, fel na ellir ei iacháu? a fyddi di i mi megis celwyddog, neu fel dyfroedd a ballant?

º19 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os dychweli, yna y’th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy.

º20 Gwnaf di hefyd i’r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni’th orchfygant: canys yr ydwyf fi gyda thi, i’th achub ac i’th wared, medd yr ARGLWYDD.

º21 A mi a’th waredaf di o law y rhai drygionus, ac a’th ryddhaf di o law yr ofnadwy.


PENNOD 16

º1 GAIR yr ARGLWYDD a dflaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd,

º2 Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn.

º3 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a’u dug hwynt, ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon;

º4 O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

º5 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr ARGLWYDD, seftrugaredd a thosturi.

º6 A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt.

º7 Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam.

º8 Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed.

º9 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o’r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.

º10 A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau byn,?c iddynt hwythau ddywedyd wrthyt. Am ba beth y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni? neu. Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?

º11 Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i, medd yr ARGLWYDD, a myned ar ôl duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a’m gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;