Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/729

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º15 Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr ARGLWYDD? deued bellach.

º16 Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di.

º17 Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd.

º18 Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt a drylliad dauddyb- lyg.

º19 Fel hyn y dywedodd yr AR¬GLWYDD wrthyf, Cerdda, a safym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr a brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem;

º20 A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn:

º21 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerw¬salem;

º22 Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i’ch tadau.

º23 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu dust; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando, a rhag derbyn addysg.

º24 Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr ARGLWYDD, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, find sancteiddio y dydd Saboth, heb wneuthur dim gwaith arno:

º25 Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a’u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerw¬salem; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth.

º26 Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd-offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr ARGLWYDD.

º27 Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sancteiddio y dydd Saboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerwsalem, ar y dydd Saboth: yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a ysa balasau Jerw¬salem, ac nis diffoddir.


PENNOD 18

º1 GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia * oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º2 Cyfod, a dos i waered i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.

º3 Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau.

º4 A’r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai, a ddifwynwyd yn Itew y crochenydd; felly efe a’i gwnaeth ef drachefn yn llestr arali, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef.

º5 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

º6 Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, tŷ Israel? medd yr AR¬GLWYDD. Wele, megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel.

º7 Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu ftenhiniaeth;

º8 Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi.

º9 A pha bryd bynnag y dywedwyf am adeiladu, ac am blannu cenedl neu frenhiniaeth;

º10 Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minnau a edifarhaf am y daioni a’r hwn y dywedais y gwnawn les iddi.

º11 Yn awr gan hynny, atolwg, dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn llunio drwg i’ch erbyn, ac yn dychmygu dychymyg i’ch erbyn: dychwelwch yr awr hon bob un o’i ffordd ddrwg,