Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/730

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a gwnewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd yn dda.

º12 Hwythau a ddywedasant, Nid oes obaith; ond ar ôl ein dychmygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob un amcan ei ddrwg galon ei hun.

º13 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gofynnwch, atolwg, ymysg y cenhedloedd, pwy a glywodd y cyfryw bethau? Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn.

º14 A wrthyd dyn eira Libanus, yr hwn sydd yn dyfod o graig y macs? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall?

º15 Oherwydd i’m pobl fy anghofio i, hwy a arogl-darthasant i wagedd, ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan o’r hen lwybrau, i gerdded llwybrau ffordd ddisathr;

º16 I wneuthur eu tir yn anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob un a elb heibio iddo a synna, ac a ysgwyd ei ben.

º17 Megis a gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd.

º18 Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef a’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef.

º19 Ystyria di wrthyf, O ARGLWYDD, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi.

º20 A delir drwg dros dda? canys cloddiasant ffos i’m henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt, ac i droi dy ddig oddi wrthynt.

º21 Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i’r newyn, a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf; a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a thrawer eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf yn y rhyfel.

º22 Clywer eu gwaedd o’u tai, pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth; canys cloddiasant ffos i’m dal, a chuddiasant faglau i’m traed.

º23 Tithau, O ARGLWYDD, a wyddost eu holl gyngor hwynt i’m herbyn i’m lladd i: na faddau eu hanwiredd, ac na ddilea eu pechodau o’th wydd; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint.


PENNOD 19

º1 FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD; DOS, a chais ysten bridd y crochfinydd, a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid,

º2 A dos allan i ddyffryn mab Hinnom, yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt;

º3 A dywed, Brenhinoedd Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem, clywch air yr ARGLWYDD: Fcl hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, ei glustiau a ferwinant.

º4 Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogl-darthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na’u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid;

º5 Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal, yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon:

º6 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr AK&LWYDD, pryd na elwir y ac hwn mwyach Toffet, na Dyffryn mab Hinnom, ond Dyffryn y lladdfa.

º7 A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

º8 A mi a wnaf y ddinas hon yn anghyfannedd, ac yn maidd, pob un a elo heibio iddi a synna ac a chwibana, oherwydd ei holl ddialeddau hi.

º9 A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytant hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a’r cyfyngder, a’r hwn y cyfynga eu gelynion, a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt.