Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/731

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º10 Yna y tornxxx yr ysten yng ngŵydd y gwŷr a cl gyda thi,

º11 Ac y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWTOD y lluoedd; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a’r ddinas hon, fel y dryllia un lestr pridd, yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach; ac yn Toffet y cleddir hwynt, o eisiau lle i gladdu.

º12 Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn, medd yr ARGLWYDD, ac i’r rhai sydd yn trig& ynddo; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet.

º13 A thai Jerwsalem, a thai brenhin¬oedd Jwda, a fyddaot halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl dai y rhai yr arogl-darthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddioA-offrymau i dduwiau dieithr.

º14 Yna y daeth Jeremeia o Toffet, lle yr anfonasai yr ARGLWYDD ef i broffwydo, ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr AR¬GLWYDD, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl,

º15 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.


PENNOD 20

º1 PAN glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben-llywodraethwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn;

º2 Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a’i rhoddodd ef yn y carchar ‘oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD.

º3 A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar. Yna Jeremeia a ddy¬wedodd wrtho ef, Ni alwbdd yr ARGLWYDD dy enw di Pasur, ond Magormissabib.

º4 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i’r rhai oll a’th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a’u caethgludd hwynt i Babilon, ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf .

º5 Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a’i holl lafur, a phob dim a’r y sydd werth fawr ganddi, a holl drysorau brenhin¬oedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelyntion, y rhai a’u hanrheithiant hwynt, ac a’u cymerant, ac a’u dygant i Babilon.

º6 A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.

º7 O ARGLWYDD, ti a’m hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfvgaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hydy dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar,

º8 Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwar¬gerdd i mi beunydd.

º9 Yna y dywedais, Ni soniaf amdano efi, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.

º10 Canys clywais ogaa llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a’i mynegwn: pob dyn heddychol a mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddy* wedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a’i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno.

º11 Ond yr ARGLWYDD oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth.

º12 Ond tydi, ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a’r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn.,

º13 Cenwch i’r ARGLWYDD, moliennwch yr ARGLWYDD: canys etc a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus.

º14 Melltigedig fyddo y dydd y’m ganwyd arno: na fendiger y dydd y’m hesgorodd fy mam.

º15 Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i’m tad, gan ddywedyd, Ganwyd i ti blentyn gwryw; gan ei lawenychu ef yn fawr.

º16 A bydded y gŵr hwnnw fel y