Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/732

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

dinasoedd a ymchwelodd yr ARGLWYDD, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd:

º17 Am na laddodd fi wrth ddyfod o’r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a’i chroth yn feichiog arnaf byth.

º18 Paham y deuthum i allan o’r groth, i weled poen a gofid, fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth?


PENNOD 21

º1 Y GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, pan anfonedd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, gan ddywedyd,

º2 Ymofyn, atolwg, a’r ARGLWYDD drosom ni, (canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni,) i edrych a wna yr ARGLWYDD a ni yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni.

º3 Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia,

º4 Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbya. brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o’r tu allan i’r gaer, a mi a’u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon.

º5 A mi fy hun a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynedig, ac a braich gref, mewn. soriant, a llid, a digofaint mawr.

º6 Trawaf hefyd drigolion y ddinas hem, yn ddyn, ac yn anifail: byddant feirw o haint mawr.

º7 Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; lu thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.

º8 Ac with y bobl hyn y dywedi. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes, a ffordd angau.

º9 Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a’i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo.

º10 Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er * da, medd yr ARGLWYDD: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a’i llysg hi ‘a than.

º11 Ac am dy brenin Jwda, dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD.

º12 O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i’m llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.

º13 Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr ARGLWYDD; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i’n herbyn? neu, Pwy a ddaw i’n hanheddau?

º14 Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr ARGLWYDD; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig, ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi.


PENNOD 22

º1 FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, DOS di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn;

º2 A dywed, Gwrando air yr ARGLWYDD; frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a’th weision, a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn:

º3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrym¬wr: na wnewch gam, ac na threisiwcn y dieithr, yr amddifad, na’r weddw, ai. na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn.

º4 Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y ty hwn frenhinoedd yn