Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/733

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a’i weision, a’i bobl.

º5 Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy him y tyngaf, medd yr ARGLWYDD, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd.

º6 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am dy brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol.

º7 Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithiwyr, pob un a’i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a’u bwriant i’r tân.

º8 A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon, ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth yr AR¬GLWYDD fel hyn i’r ddinas fawr hon?

º9 ‘Yna yr atebant. Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr ARGLWYDD eu Duw, ac addoli duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt.

º10 Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wyl¬wch am yr hwn sydd yn myned ymaith’: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wel wlad ei enedigaeth.

º11 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deymasodd yn lle Joseia ei dad; yr hwn a aeth allan o’r lle hwn; Ni ddy¬chwel efe yno mwyach.

º12 Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni we! efe y wlad hon mwyach.

º13 Gwae yr hwn a adeilado ei d trwy anghyfiawnder, a’i ystafellau trwy gam; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith:

º14 Yr hwn a ddywed. Mi a adeiladaf i mi dy eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio a fermilion.

º15 A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo?

º16 Efe a farnodd gwyn y tlawd a’r

anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr ARGLWYDD,’

º17 Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd-dod, ac ar’ dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a chain.

º18 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O i6r! neu, O ei ogoniant ef! ,

º19 A chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a’i daflu tu hwnt i byrth’ Jerwsalem. ‘

º20 Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o’r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a’th garant.

º21 Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o’th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais.

º22 A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a’th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y’th gywilyddir, ac y’th waradwyddir am dy holl ddrygioni.

º23 Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor!

º24 Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw, diau y tynnwn di oddi yno:

º25 A mi a’th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid.

º26 Bwriaf dithau hefyd, a’th fam a’th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni’ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw.

º27 Ond i’r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno.

º28 Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a’i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant?

º29 O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr ARGLWYDD.

º30 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi-blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o’i had efun a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.