Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/734

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto



PENNOD 23

º1 GWAE y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa! medd yr ARGLWYDD.

º2 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW Israel yn erbyn y bugeil¬iaid sydd yn bugeilio fy mhobl; Chwi a wasgarasoch fy nefaid, ac a’u hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr ARGLWYDD.

º3 A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wiedydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhant xxxx ac y chwanegant.

º4 Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a’u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr ARGLWYDD.

º5 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna fam a chyfiawnder ar y ddaear.’

º6 Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER.

º7 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na ddywedant mwyach, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o wlad yr Aifft:

º8 Eithr, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug i fyny, ac a dywysodd had tŷ Israel o dir y gogledd, ac o bob gwlad lle y gyraswn i hwynt; a hwy a gant aros yn eu gwlad eu hun.

º9 Oherwydd y proffwydi y torrodd fy nghalon ynof, fy holl esgyrn a grynant: yr ydwyf fel un meddw, ac fel un wedi i win ei orchfygu; oherwydd yr ARGLWYDD, ac oherwydd geiriau ei sancteiddrwydd ef.

º10 Canys llawn yw y ddaear o odinebwyr: canys oherwydd llwon y gofidiodd y ddaear, ac y sycfaodd tirion leoedd yr anialwch; a’u helynt sydd ddrwg, a’u cadernid nid yw uniawn.

º11 Canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd a ragrithiasant: yn fy nhŷ hefyd y cefais eu drygioni hwynt, medd yr ARGLWYDD.

º12 Am hynny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch; gyrrir hwynt rhagddynt, a syrthiant ynddi: canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd, sef blwyddyn eu gofwy, medd yr ARGLWYDD.

º13 Ar broffwydi Samaria y gwelais hefyd beth diflas: proffwydasant yn Baal, a hudasant fy mhobl Israel.

º14 Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a’i thrigolion fel Gomorra.

º15 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd am y proffwydi, Wele, mi a’u bwydaf hwynt a’r wermod, ac a’u diodaf hwynt a dwfr bust!: canys oddi wrth broffwydi Jerwsalem yr aeth lledrith allan i’r holl dir.

º16 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweiedigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr ARGLWYDD.

º17 Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed.

º18 Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr ARGLWYDD, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a’i gwrandawodd?

º19 Wele, corwynt yr ARGLWYDD a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus.

º20 Digofaint yr ARGLWYDD ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur.

º21 Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant.

º22 A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i’m