Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/735

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd q’u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd.

º23 Ai Duw o agos ydwyf fi, medd yr ARGLWYDD, ac nid Duw o bell?

º24 A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr ARGLWYDD: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear? medd yr ARGLWYDD.

º25 Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais.

º26 Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt.

º27 Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw ttwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal.

º28 Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a’r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr ARGLWYDD.

º29 Onid yw fy ngair i megis tan? medd yr ARGLWYDD; ac fel gordd yn dryllio’r graig?

º30 Am hynny wele fi yn ‘erbyn y proff¬wydi, medd yr ARGLWYDD, y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau, bob un oddi ar ei gymydog.

º31 Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr ARGLWYDD, y rhai a lymhant eu tafodau, ac a ddywedant, Efe a ddywed¬odd.

º32 Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog, medd yr ARGLWYDD, ac a’u mynegant, ac a hudant fy mhobl a’u celwyddau, ac a’u gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchy- xxxx fflyn tddynt: aan hynny ni wnânt ddim lles i’r bobl hyn, medd yr ARGLWYDD.

º33 A phan ofynno y bobl hyn, neu y proffwyd, neu yr offeiriad, i ti, gan ddywedyd, Beth yw baich yr ARGLWYDD? yna y dywedi wrthynt. Pa faich? eich gwrthod a wnaf, medd yr ARGLWYDD.

º34 A’r proffwyd, a’r offeiriad, a’r bobl, y rhai a ddywedo, Baich yr ARGLWYDD, myfi a ymwelaf a’r gŵr hwnnw, ac a’i dŷ.

º35 Fel hyn y dywedwch bob un wrth ei gymydog, a phob un wrth ei frawd, Beth a atebodd yr ARGLWYDD? a pha beth a lefarodd yr ARGLWYDD?

º36 Ond am faich yr ARGLWYDD na wnewch goffa mwyach; canys baich i bawb fydd ei air ei hun: oherwydd chwy-chwi a wyrasoch eiriau y Duw byw, ARGLWYDD y lluoedd, ein Duw ni.

º37 Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd, Pa ateb a roddodd yr ARGLWYDD i ti?’a pha beth a lefarodd yr ARGLWYDD?

º38 Ond gan eich bod yn dywedyd, Baich, yr ARGLWYDD; am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, Baich yr ARGLWYDD, a mi wedi anfon atoch, gan ddywedyd, Na ddywedwch, Baich yr ARGLWYDD:

º39 Am hynny wele, myfi a’ch llwyr anghofiaf chwi, ac mi a’ch gadawaf chwi; a’r ddinas yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau, ac a’ch bwriaf allan o’m golwg.

º40 A mi a roddaf arnoch warthrudd tragwyddol, a gwaradwydd tragywydd, yr hwn nid anghofir.


PENNOD 24

º1 "VR ARGLWYDD a ddangosodd i mi, ac — wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer tcml yr ARGLWYDD, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem, a’u dwyn i Babilon.

º2 Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced.

º3 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyl, Belh a weli di, Jeremeia? A mi a ddyweilais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a’r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced.

º4 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

º5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais O’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni.