Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/736

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º6 Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a’u dygaf drachefn i’r wlad hon, ac a’u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ap nis diwreiddiaf.

º7 Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr ARGLWYDD ydwyf fi: a, hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy: canys hwy-a droant ataf fi a’u holl galon.

º8 Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft:

º9 Ie, rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt.

º10 A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau.


PENNOD 25

º1 ‘V GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia * am holl bobl Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon;

º2 Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda, ac wrth holl breswylwyr Jcrwhalem, gan ddy¬wedyd,

º3 Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, hortao yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch.

º4 A’r ARGLWYDD a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a’u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clusti glywed.

º5 Hwy a ddywedent, Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD i chwi ac i’ch tadau, byth ac yn dragywydd:

º6 Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, I’w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi a gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi.

º7 Er hynny ni wrandawsoch arnaf, medd yr ARGLWYDD, fel y digiech fi a gweithred¬oedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain.

º8 Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,

º9 Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr AR¬GLWYDD, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol.

º10 Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau, ballu ganddynt.

º11 A’r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain.

º12 A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf a brenin Babilon, ac a’r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, am eu hanwiredd, ac a gwlad y Caldeaid; a mi a’i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol.

º13 Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a lefarais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.

º14 Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu him.

º15 Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Duw Israel, wrthyf fi, Cymer ffiol win y digofaint yma o’m llaw, a dod hi i’w hyfed i’r holl