Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/737

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt.

º16 A hwy a yfant, ac a frawy chant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith.

º17 Yna mi a gymerais y ffiol o law yr ARGLWYDD, ac a’i rhoddais i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD fi atynt:

º18 I Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ac i’w brenhinoedd, ac i’w thywysogion: i’w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felltith, fel y mae heddiw;

º19 I Pharo brenin yr Aifft, ac i’w weision, ac i’w dywysogion, ac i’w holl bobl;

º20 Ac i’r holl bobl gymysg, ac i holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Assa, ac Ecron, a gweddill Asdod,

º21 I Edom, a Moab, ameibionAmmon;

º22 I holl frenhinoedd Tyrus hefyd, ac d holl frenhinoedd Sidon, ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr;

º23 I Dedan, a Thema, a Bus; ac i bawb o’r cyrrau eithaf;

º24 Ac i holl frenhinoedd Arabia, ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg, y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch;

º25 Ac i holl frenhinoedd Simri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid;

º26 Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda’i gilydd; ac i holl deymasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt.

º27 A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i’ch plith.

º28 Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o’th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Diau yr yfwch:

º29 Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihenfewchchwiynddigerydd? Na ddihengwcn; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd ARGLWYDD y lluoedd.

º30 Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr ARGLWYDD oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle, bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear.

º31 Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a’r cenhedloedd: efe a ymddadlau a phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i’r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.

º32 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear.

º33 A lladdedigion yr ARGLWYDD a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gŵr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: ni alerir drostynt, ac nis cesglir, ac nis cleddir hwynt; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear.

º34 Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a’ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol.

º35 Metha gan y bugeiliaid ffoi, a chan flaenoriaid y praidd ddianc.

º36 Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac udfa blaenoriaid y praidd: canys yr ARGLWYDD a anrheithiodd eu porfa hwynt.

º37 A’r anheddau heddychlon a ddryllir, gan lid digofaint yr ARGLWYDD.

º38 Efe a wrthododd ei loches, fel cenau llew: canys y mae eu tir yn anghyf¬annedd, gan lid y gorthrymwr, a chan lid ei ddigofaint ef.


PENNOD 26

º1 YN nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Saf yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD, a llefara wrth holl ddinasoedd Ju-