Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/739

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

lladdodd ef â’r cleddyf , ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin.

º24 Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y..bobl i’w ladd.


PENNOD 27

º1 YN nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wthyf, Gwna i ni rwymau a gefynnau a dod hwynt am dy wddf; .

º3 Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda;

º4 A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi;

º5 Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a’r anifail sydd ar wyneb y ddaear, a’m grym mawr, ac a’m braich estynedig, ac a’u rhoddais hwynt i’r neb y gwelais yn dda.

º6 Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i’w wasanaethu ef.

º7 A’r holl genhedloedd a’i gwnsanaethant ef, a’i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef, yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef.

º8 Ond y genedl a’r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a’r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â’r cleddyf , ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â’r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef.

º9 Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac A eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon:

º10 Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i’ch gyrru chwi ymhell o’ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch.

º11 Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon, ac a’i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun, medd yr ARGLWYDD; a hwy a’i llafuriant hi, ac a drigant ynddi.

º12 Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a’i bobl, fel y byddoch byw.

º13 Paham y byddwch feirw, ti a’th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr ARGLWYDD yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon?

º14 Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn proff¬wydo celwydd i chwi.

º15 Oherwydd nid myfi a’u hanfonodd hwynt, medd yr ARGLWYDD; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd, fel y gyrrwn chwi ymaith, ac y darfyddai amdanoch chwi, a’r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi.

º16 Myfi a leferais hefyd wrth yr offeir¬iaid, a’r holl bobl hyn, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi, y rhai sydd yn proffwydo i chwi, gan ddy¬wedyd., Wele, llestri tŷ yr ARGLWYDD a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys; canys celwydd y maent yn ei. broffwydo i chwi.

º1:7 Na wrandewch arnynt; gwasan¬aethwch chwi frenin Babilon, a byddwch fyw: paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch? . ..

º18 Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr ARGLWYDD gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar ARGLWYDD y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin. Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon.

º19 Canys fel hyn y dywed AR-