Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/740

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

GLWYDD y lluoedd, am y colofnau, ac am y môr, ac am yr ystolion, ac am y rhan arall o’r llestri a adawyd yn y ddinas hon,

º20 Y rhai ni ddug Nebsichodonosor brenin Babilon ymaith, pan gaethgludodd efe Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, o Jerwsalem i Babilon, a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem;

º21 Ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, am y llestri a ada¬wyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem;

º22 Hwy a ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt, medd yr ARGLWYDD: yna y dygaf hwynt i fyoy, ac y dychwelaf hwynt i’r lle hwn.


PENNOD 28

º1 AC yn y flwyddyn honno, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn, ar y pumed mis, y llefarodd Hananeia mab Asur y profiwyd, yr hwn oedd o Gibeon, wrthyf fi yn nhŷ yr ARGLWYDD, yng ngŵydd yr offeiriaid a’r holl bobl, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Myfi a dorrais iau brenin Babilon.

º3 O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o’r lle hwn, ac a’u dug i Babilon; ddygaf Jechoneia mab fel y gwasanaethont Nebuchodonosor n Jwda, a holl eaethelud brenin Babilon, a hwy a’i gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef.

º4 Ac mi a ddygaf Jechoniah mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i’r lle hwn, medd yr ARGLWYDD; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.

º5 Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid, ac yng ngŵydd yr holl bobl, y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr ARGLWYDD;

º6 Ie, y proffwyd Jeremeia a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr ARGLWYDU: yr ARGLWYDD a gyflawno dy eiriau di, y rhai a broffwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr ARGLWYDD, a’r holl gaethglud, o Babilon i’r lle hwn.

º7 Eto, gwrando di yr awr hon y gair yma, yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl;

º8 Y proffwydi y rhai a fuant o’m blaen i, ac o’th flaen dithau erioed, a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer, ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddrygfyd, ac am haint.

º9 Y proffwyd a broffwydo am heddwch, pan ddêl gair y proffwyd i ben; yr adnabyddir y proffwyd, mai yr ARGLWYDD a’i hanfonodd ef mewn gwirionedd.

º10 Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jere¬meia y proffwyd, ac a’i torrodd ef.

º11 A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proff¬wyd a aeth i ffordd.

º12 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia y proffwyd, wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia, gan ddywedyd,

º13 DOS di, a dywed i Hananeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Gefynnau pren a dorraist ti; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn.

º14 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl renhedloedd hyn, heddwch hi y bydd heddwch i chwithau.

º15 Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr ARGLWYDD mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.

º16 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Wele, mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.