Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/741

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º17 Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.


PENNOD 29

º1 DYMA eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud, ac at yr offeiriaid, ac at y proffwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodo¬nosor o Jerwsalem i Babiloa;

º2 (Wedi myned Jechoneia y brenin, a’r frenhines, a’r ystafellyddion, tywysogion Jwda a Jerwsalem, a’r seiri a’r gofaint, allan o Jerwsalem,)

º3 Yn llaw Elasa mab Saffan, a Gemareia mab Hiloeia, y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, gan ddywedyd,

º4 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, wrth.yr holl gaeth¬glud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon;

º5 Adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.;

º6 Cymerwch wragedd, ac enillwch feibion a merched; a chymerwch wragedd i’ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr esgoront ar feibion a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihaoch.

º7 Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y’ch caethgludais iddi, a gweddiwch ar yr ARGLWYDD drosti hi; canys yn ei

º8 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch, na’ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio:

º9 Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i; ni anfonais’ i mohonynt, medd yr ARGLWYDD.

º10 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf a chwi, ac a gyflawnaf a chwi fy ngair. daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn.

º11 Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi, medd yr ARGLWYDD, meddyliau heddwch ac nid niwed, i roddi i chwi y diwedd yr. ydych chwi yn ei ddisgwyl.

º12 Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch, ac y gweddiwch arnaf fi, a minnau. a’ch gwrandawaf.

º13 Ceisiwch fi hefyd, a chwi a’m cewch, pan y’m ceisioch a’ch holl galon.

º14 A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr ARGLWYDD, a mi a ddychwelafi eich caethiwed, ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd, ac o’r holl leoedd y rhai; y’ch gyrrais iddynt, medd yr ARGLWYDD; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono.

º15 Oherwydd i chwi ddywedyd, Yr ARGLWYDD a gyfododd broffwydi i ni yn Babilon;,

º16 Gwybyddwch mai fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y brenin sydd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, ac am yr holl bobl sydd yn trigo yn y ddinas hon, ac am eich brodyr y rhai nid aethant allan gyda chwi i gaethglud;,

º17 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Wele fi yn anfon arnynt y cleddyf, a newyn, a haint, a mi a’u gwnaf hwynt fel y ffigys bryntion, y rhai ni ellir eu bwyta, rhag eu dryced.

º18 A mi a’u herlidiaf hwynt â’r cleddyf , a newyn, ac a haint; ac mi a’u rhoddat hwynt i’w symud i holl deymasoedd y ddaear, yn felltith, ac yn chwithdra, ac yn chwibaniad, ac yn warth, ymysg yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt;

º19 Am na wrandawsant ar fy ngeiriau, medd yr ARGLWYDD, y rhai a anfonais i atynt gyda’m gweision y proffwydi, gan gyfodi yn fore, a’u hanfon; ond ni wrandawech, medd yr ARGLWYDD.

º20 Gan hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi oll o’r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon: