Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/742

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º21 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a’u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi.

º22 A holl gaethglud Jwda, yr hon sydd yn Babilon, a gymerant y rheg hon oddi" wrthynt hwy, gan ddywedyd, Gwneled yr ARGLWYDD dydi fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân;

º23 Am iddynt wneuthur ysgelerder yn Israel, a gwneuthur godineb gyda gwragedd eu cymdogion, a llefaru ohonynt eiriau celwyddog yn fy enw i, y rhai nl orchmynnais iddynt; a minnau yn gwybod, ac yn dyst, medd yr ARGLWYDD.

º24 Ac wrth Semaia y Nehelamiad y lleferi, gan ddywedyd,

º25 Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, ArtS i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddywedyd,

º26 Yr ARGLWYDD a’th osododd di yn: offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad, i fod yn olygwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar bob gŵr gorffwyllog, ac yn cymryd arno broffwydo, i’w roddi ef mewn carchar, a chyffion:;’’

º27 Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth, yr hwn sydd yn proffwydo i chwi?

º28 Canys am hynny yr anfonodd atom ni i Babilon, gan ddywedyd, Hir fydd y caethiwed hwn: adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddym; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

º29 A Seffaneia yr offeiriad a ddarilenodd y llythyr hwn lle y clywodd Jeremeia y proffwyd.

º30 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd, ...

º31 Anfon at yr holl gaethglud, gan ddy¬wedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Semaia y Nehelamiad; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon ef, a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd:

º32 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele mi a ymwelaf a Semaia y Nehelamiad, ac a’i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl, medd yl ARGLWYDD; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.:


PENNOD 30

º1 1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddy¬wedyd,

º2 Fel hyn y llefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr.

º3 Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr ARGLWYDD, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr ARGLWYDD: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau, a hwy a’i meddiannant hi.

º4 Dyma hefyd y geiriau a lefarodd.’yr ARGLWYDD am Israel, ac am Jwda:

º5 Oherwydd fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Llef dychryn a glywsom m, ofn, ac nid heddwch.

º6 Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a esgora gwryw; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr a’i ddwylo ar ei lwynau; fel gwraig wrth esgor, ac y rrowyd yr holl wynebau yn lesni?

º7 Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo; amser blinder yw hwo i Jacob; ond efe a waredir ohono.

8 Canys y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y torraf fi ei iau ef iau ef oddi ar dy warr di, a mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach.

º9 Eithr hwy a wasanaethant yr AR¬GLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt.

º10 Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr ARGLWYDD; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a’th achubaf di o bell, a’th had o dir eu caethiwed, a Jacob a ddy-