Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/743

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

chwel, ac a orffwys, ac a gaifflonydd, ac ni bydd a’i dychryno.

º11 Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr ARGLWYDD, i’th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn, ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd.

º12 Oblegid fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll.

º13 Nid oes a ddadleuo dy gwyn, fel y’th ‘ iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti. "y GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia

º14 Dy holl gariadau a’th anghofiasant: * oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddy ai cheisiant mohonot ti; canys mi a’th nr rA drewais a dymod gelyn, sef a chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant.

º15 Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o’th bech¬odau y gwneuthum hyn i ti.

º16 Am hynny y rhai oll a’th ysant a ysir; a chwbl o’th holl elynion a ânt i gaethiwed; a’th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith, a’th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail.

º17 Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a’th iachâf di o’th friwiau, medd yr ARGLWYDD; oblegid hwy a’th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio.

º18 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar-ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer.

º19 A moliant xxxx a a, allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a’u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anami; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael.

º20 Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf a’u holl orthrymwyr hwynt.

º21 A’u pendefigion fydd ohonynt ei hun, a’u liywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesau, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i hesau ataf fi? medd yr ARGLWYDD.

º22 A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau.

º23 Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys.

º24 Ni ddychwel digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn. . .


PENNOD 31

º1 YR amser hwnnw, medd yr AR¬GLWYDD, y byddaf DDUW i holl deuluoedd Israel; a hwythau a fyddant bobl i mi.

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf, a gafodd ffafr yn yr anialwch, pan euthum i beri llonyddwch iddo ef, sef i Israel.

º3 Er ys talm yr ymddangosodd yr AR¬GLWYDD i mi, gan ddywedyd, A chariad tragwyddol y’th gerais: am hynny tynnaig di a thrugaredd.

º4 Myfi a’th adeiladaf eto, a thi a adeil¬edir, O forwyn Israel: ymdrwsi eto a’th dympanau, ac a ei allan gyda’r chwaraeyddion dawns.

º5 Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a’u mwynhânt yn gynredin.

º6 Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Enraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.

º7 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O ARGLWYDD, cadw dy bobli gweddill Israel. ;

º8 Wele, mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a’r cloff, y feichiog a’r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma.

º9 Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf; iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd tmewn ffordd uniawn yr