Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/744

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf-anedig.

º10 Gwrandewch air yr ARGLWYDD, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a was-; garodd Israel, a’i casgl ef; ac a’i ceidw fel bugail ei braidd.

º11 Oherwydd yr ARGLWYDD a waredodd Jacob, ac a’i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef.

º12 Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr ARGLWYDD, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a’r gwartheg: a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach.

º13 Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a’u diddanaf hwynt, ac a’u llawenychaf o’u tristwch.

º14 A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid a braster, a’m pobl a ddigonir a’m daioni, medd yr ARGLWYDD.

º15 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am. ei meibion, oherwydd nad oeddynt.

º16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Atal dy lef rhag wylo, a’th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i’th laftir, medd yr ARGLWYDD; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn.

º17 Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr ARGLWYDD, y dychwel dy blant i’w bro eu hun.,:

º18 Gan glywed y clywais Efiraim yn tf6s cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino â’r iad: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr ARGLWYDD fy Nuw.

º19 Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid.

º20 Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr ARGLWYDD.

º21 Cyfod i ti arwyddion ffordd, gosod i ti garneddau uchel: gosod dy galon tua’r briffordd, y ffordd yr aethost: dy¬chwel, forwyn Israel, dychwel i’th ddinasoedd hyn.

º22 Pa hyd yr ymgrwydri, O ferch wrthnysig? oblegid yr ARGLWYDD a greodd beth newydd ar y ddaear; Benyw a amgylcha ŵr.

º23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda, ac yn ei dinasoedd, pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, Yr ARGLWYDD a’th fendithio, trigfa cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd.

º24 Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda, ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd.

º25 Oherwydd yr enaid diffygiol a ddigonais, a phob enaid trist a lenwais.

º26 Ar hyn y deffroais, ac yr edrychais, a melys oedd fy hun gennyf.

º27 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda a had dyn ac a had anifail.

º28 Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr ARGLWYDD.

º29 Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod.

º30 Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a’r a fwytaxxxxawn-win surion, ar ei ddannedd ef y hydd dincod.

º31 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y gwnaf gyfamod newydd. a thŷ Israel, ac a thŷ Jwda:

º32 Nid fel y cyfamod a wneuthum a’u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr ARGLWYDD.

º33 Ond dyma y cyfamod a wnaf fi a thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt, ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf