Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/749

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º9 I ollwng o bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai fyddent Hebread neu Hebrees, yn rhyddion; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt, sef gan ei frawd o Iddew.

º10 A phan glybu yr holl benaethiaid, a’r holl bobl y rhai a aethent i’r cyfamod, am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion, fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach, yna hwy a wrandawsant, ac a’u gollyngasant ymaith.

º11 Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a’u morynion, y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac a’u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion.

º12 Am hynny y daeth gair yr AR¬GLWYDD at Jeremeia oddi wrth yr AR¬GLWYDD, gan ddywedyd,

º13 Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Mi a wneuthum gyfamod â’ch tadau chwi, y dydd y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed, gan ddy¬wedyd,

º14 Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread, yr hwn a werthwyd i ti, ac a’th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt: ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau.

º15 A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw, ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg, am gyhoeddi rhyddid bob un i’w gymydog; a chwisa wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i, yn y tŷ y gelwir fy enw arno:

º16 Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun; caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi.

º17 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd, a phob un i’w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn, medd yr ARGLWYDD, ryddid i’r cleddyf, i’r haint, ac i’r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear.

º18 A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, yr hwn a holltasent yn ddau;

º19 Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a’r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo;

º20 Ie, mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: a’u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

º21 A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon, y rhai a aethant i fyny oddi wrthych.

º22 Wele, mi a orchmynnaf, medd yr ARGLWYDD, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a’i goresgynnant hi, ac a’i llosgant hi â thân: ac mi a wnaf ddinas¬oedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd.


PENNOD 35

º1 YGAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda, gan ddywedyd,

º2 DOS di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phar iddynt ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD, i un o’r ystafelloedd, a dod iddynt win i’w yfed.

º3 Yna myfi a gymerais Jaasaneia, mab Jeremeia, mab Habasineia, a’i frodyr, a’i holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid;

º4 A mi a’u dygais hwynt i dŷ yr AR¬GLWYDD, i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia, gŵr i DDUW, yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum, ceidwad y drws.

º5 A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win.

º6 Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwy-chwi na’ch plant, yn dragywydd: