Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/750

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º7 Na adeiledwch dŷ, ac na heuwch had, ac na phlennwch winllan, ac na fydded gennych chwi: ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau: fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear, lle yr ydych yn ddieithriaid.

º8 A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad, am bob peth a orchmynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a’n merched;

º9 Ac nad adeiladem i ni dai i’w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na macs, na had:

º10 Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll, a gwrando, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni.

º11 Offd pan ddaeth’ Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i’r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio.

º12 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,

º13 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; DOS, a dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau? medd yr AR¬GLWYDD.

º14 Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i’w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru, ond ni wrandawsoch arnaf.

º15 Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi, gan godi yn fore, ac anfon, gan ddywedyd, Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau: ond ni ogwyddasoch eich clustiau, a’C ni wrandawsoch arnaf.

º16 Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyflawni gorchymyn eu tad, yr hwn a orchmynnodd efe iddynt; ond y bobl yma ni wrandawsant arnaf fi:

º17 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar Jwda, ac ar holl drigolion Jerwsalem, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn: oherwydd i mi ddywedyd wrthynt, ond ni wrandawsant; a galw arnynt, ond nid atebasant.

º18 A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl orchmynion ef, a gwneuthur yn ôl yr hyfi oll a orchmynnodd efe i chwi:

º19 Am hynny fel hyff y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Ni phalla i Jonadab mab Rechab ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd.


PENNOD 36

º1 A yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr AR¬GLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,

º2 Cymer i ti blyg llyfr, ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn trbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o’r dydd y lleferais i wrthyt ti, er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn.

º3 Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a’u pechod.

º4 Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr.

º5 A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr ARGLWYDD.

º6 Am hynny dos di, a darllen o’r llyfr a ysgrifennaist o’m genau, eiriau yr ARGLWYDD, lle y clywo y bobl,