Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/751

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar y dydd ympryd; a lle y Slywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o’u dinasoedd, y darileni di hwynt.

º7 Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yf APGLWYDD yn erbyn y bobl hyn.

º8 Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o’r llyfr eiriau yr ARGLWYDD yn nhŷ yr AR¬GLWYDD.

º9 Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr ARGLWYDD, i’r holl bobl yn Jerwsalem, ac i’r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.

º10 Yna Baruch a ddarllenodd o’r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia mab Saffan ye ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr ARGLWYDD, lle y clybu yr holl bobl.

º11 Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr ARGLWYDD allan o’r llyfr, i a Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin-i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Einathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a’r holl dywysogion.

º13 A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasaii Baruch y llyfr lle y clybu y bobl.

º14 Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddy¬wedyd, Cymer yn dy law y llyfr y dar nenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a-thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.

º15 A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom. ni. Felly Baruch a’i darilenodd lle y clywsant hwy.

º16 A pban glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda’i gilydd; a hwy a’ ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i’r brenin.

º17 A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr. Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o’i enau ef?

º18 Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi a’i enau, a minnau a’u hysgnfennais hwynt yn y llyfr ag inc.

º19 Yna y tywy&ogion a ddywedasant wrth Baruch, DOS ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.

º20 A hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgnfcnnydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin.

º21 A’r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a’i dug ef <y ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a’i darilenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.

º22 A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis, â thân wedi ei gynnau ger ei fron.

º23 A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a’i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a’i bwriodd i’r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o’r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd.

º24 Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na’r brenin, nac yr un o’i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn.

º25 Eto Einathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant a’r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt.

º26 Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr ARGLWYDD a’u cuddiodd hwynt.

º27 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, (wedi i’r brenin losgi y llyfr, a’r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd,

º28 Cymer i ti eto lyfr arall, ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda:

º29 A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ti a losgaist y llyfr hwn,