gan ddywedyd; Paham yr ysgrifennaist ynddo, gan ddy¬wedyd, Diau y daw brenin Babilon, ac a anrheithia y wlad hon; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni?
º30 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhmfainc Dafydd: a’i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd, ac i rcw y nos.
º31 A mi a ymwelaf ag ef, ac a’i had, ac a’i weision, am eu hanwiredd, a mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerwsalem, ac ar wŷr Jwda, yr holl ddrwg a leferais i’w herbyn, ond ni wrandawsant.
º32 Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall, ac a’i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân: a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer, fel hwythau.
PENNOD 37
º1 AR brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda.
º2 Ond ni wrandawodd efe, na’i weision na phobl y tir, ar eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd.
º3 A’r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, at Jeremeia y proff¬wyd, gan ddywedyd, Gweddïa, atolwg, drosom ni ar yr ARGLWYDD ein Duw.
º4 A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl: canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy.
º5 A llu Pharo a ddaethai allan o’r Aifft: a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt, hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem.
º6 Yna gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd,
º7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn a mi; Wele, llu Pharo, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel i’w wlad ei hun, i’r Aifft.
º8 A’r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac .a’i henillant, ac a’i llosgant â thân. .’’
º9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Na thwyllwch eich hunain, gan ddywedyd, Diau yr a y Caldeaid oddi wrthym ni: oblegid md ânt hwy.
º10 Canys pe trawech chwi holl lu y. Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i’ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân.
º11 A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem, rhag llu Pharo,
º12 Yna Jeremeia a aeth allan o Jerw¬salem, i fyned i wlad Benjamin, i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl.
º13 A phan oedd efe ym mhorth Ben¬jamin, yr oedd yno ben-swyddog, a’i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti.
º14 Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a’i dygodd ef at y tywysogion.
º15 Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a’i trawsant, ac a’i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy.
º16 Pan ddaeth Jeremeia i’r daeardy, ac i’r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer;
º17 Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a’i cymerodd ef allan: a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dy ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD? A dywedodd Jerem¬eia,