Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/753

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon.

º18 Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i’th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y’m rhoddasoch yn y carchardy?

º19 Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi, gan ddywedyd, Ni ddaw brenin Babilon i’ch erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?

º20 Ac yn awr gwrando, atolwg, O fy arglwydd frenin: atolwg, deued fy ngweddi ger dy fron; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifen¬nydd, rhag fy marw yno.

º21 Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl tara yn y ddinas. Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.


PENNOD 38

º1 "VNA Seffatia mab Mattan, a Gedaleia

º1 mab Pasur, a Jucal mab Selemeia, a Phasur mab Malcheia, a glywsant y geinau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd.

º3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon, yr hwn a’i hennill hi.

º4 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed.

º5 A’r brenin Sedeceia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi.

º6 Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond torn: felly Jeremeia a lynodd yn y dom.

º7 A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o’r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a’r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,)

º8 Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin, ac a lefarodd wrth y brenin, gan ddywedyd,

º9 O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i’r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas.

º10 Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Cymer oddi yma ddengwr ar hugaift gyda thi, a chyfod Jeremeia y proffwyd o’r daeardy cyn ei farw.

º11 Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a’u gollyngodd i waered at Jeremeia i’r daeardy wrth raffau.

º12 Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a’r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. a Jeremeia a wnaeth felly.

º13 Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a’i codasant ef o’r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.

º14 Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i’r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a’r brenin a ddywed¬odd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi.

º15 A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia, Os mynegaf i ti, oni roddi