di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf?
º16 Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddy¬wedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes.
º17 Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw y lluoedd, Duw Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a’th deulu.
º18 Ond onid ei di allan at dywysogion
brenin Babilon, yna y ddina hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a’i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt.
º19 A’r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i’r rhai hynny fy ngwatwar.
º20 A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais ye ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a’th enaid a fydd byw. !
º21 Ond os gwrthodi fyned allan, dyrna y gair a ddangosodd yr ARGLWYDD i mi:
º22 Ac wele, yr holl wragedd, y rhai 9 adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babiion; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a’th hudasant, ac a’th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl.
º23 Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt; canys a llaw brenin Babilon y’th ddelir; a’r ddinas hon a losgi â thân.
º24 Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, Na chaffed neb wybod y geiriau hyn, ac ni’th roddir i farwolaeth.
º25 Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant atat ti, a dywedyd wrthyt, Mynega yn awr i iri beth a draethaist ti wrth y brenin; na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau:
º26 Yna dywed wrthynt, Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin, na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno.
º27 Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia, ac a’i holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a orchmynasai y brenin: felly hwy a beidiasant ag ymddiddan âg ef, canys ni chafwyd clywed y peth.
º28 A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carehardy byd y dydd yr enillwyd Jerwsalem; ac yno oedd efe pass. eiri.Uwyd Jerwsalem.
PENNOD 39
º1 YN y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, ar y degfed mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilan, a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a warchaeasant arni.
º2 Yn yr unfed fiwyddyn ar ddeg ~\ Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o’r mis, y torrwyd y ddinas*
º3 A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth canol, sefNergal-sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergat-sareser, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.
º4 A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a’r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i’r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua’r anialwch.
º5 A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a’i daliasanc ef, ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribia yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe fam arno.
º6 Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribia o