Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/755

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda.

º7 Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef a chadwynau i’w ddwyn i Babilon.

º8 A’r Caldeaid a losgasant dy y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem.

º9 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid.

º10 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o diodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda; ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.

º11 A Nebuchodonosor brenin Babi¬lon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd,

º12 Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo.

º13 Felly Nebusaradan pennaeth y mSwyr a anfonodd, Nebusasban hefyd, Rabsaris, a Nergal-sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon; i º14 Ie, hwy a anfonasant, ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy, ac a’i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, i’w ddwyn adref: felly efe a drigodd ymysg y bobl.

º15 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd,

º16 DOS, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a barafi’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er lles, a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw.

º17 Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, ac ni’th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt.

º18 Canys gan achub mi a’th achubaf, ac ni syrthi trwy y cleddyf, eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti, am i ti ymddiried ynof fi, medd yr ARGLWYDD.


PENNOD 40

º1 YGAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama, wedi iddo ei gymryd ef, ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda, y rhai a gaethgludasid i Babilon.

º2 A phennaeth y milwyr a gymerodd Jeremeia, ac a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD dy DDUW a lefarodd y drwg yma yn erbyn y lle hwn.

º3 A’r ARGLWYDD a’i dug i ben, ac a wnaeth megis y llefarodd: am i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na wrandawsoch ar ei lais ef, am hynny y daeth y peth hyn i chwi.

º4 Ac yn awr wele, mi a’th ryddheais di heddiw o’r cadwynau oedd am dy ddwylo: os da gennyt ti ddyfod gyda mi i Babilon, tyred, a myfi a fyddaf da wrthyt: ond os drwg y gweli ddyfod gyda mi i Babilon, paid; wele yr holl dir o’th flaen di: i’r fan y byddo da a bodlon gennyt fyned, yno dos.

º5 Ac yn awr, ac efe eto heb ddychwelyd, efe a ddywedodd, Dychwel at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, yr hwn a osododd brenin Babilon ar ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl: neu dos lle y gwelych di yn dda fyned. Felly pennaeth y milwyr a roddodd iddo ef luniaeth a rhodd, ac a’i gollyngodd ef ymaith.

º6 Yna yr aeth Jeremeia at Gedaleia mab Ahicam i Mispa, ac a arhosodd gydag ef ymysg y bobl a adawsid yn y wlad.

º7 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hyd y wlad, hwynt-hwy a’u gwyr, i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad, ac iddo roddi dan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o diodion y wlad, o’r rhai ni chaethgludasid i Babilon;

º8 Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan a Jonathan meibion Carea, a Seraia mab