Tanhumeth, a meibion Effai y Netoffathiad, a Jesaneia mab Maachathiad, hwynt-hwy a’u gwŷr.
º9 A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwyr, gan ddywedyd, Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid: trigwch yn y wlad, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi.
º10 Amdanaf finnau, wele, mi a drigaf ym Mispa, i wasanaethu y Caldeaid, y rhai a ddeuant atom ni: chwithau, cesglwch win, a ffrwythydd haf, ac olew, a dodwch hwynt yn eich llestri, a thngwch yn eich dinasoedd, y rhai yr ydych yn eu meddiannu.
º11 A phan glybu yr holl Iddewon y Thai oedd ym Moab, ac ymysg meibien Ammon, ac yn Edom, ac yn yr holl wiedydd, i frenin Babilon adael gweddill o Jwda, a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy;
º12 Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant o’r holl leoedd lle y gyrasid hwynt, ac a ddaethant i wlad Jwda at Gedaleia i Mispa, ac a gasglasant win o ffrwythydd haf lawer iawn.
º13 Johanan hefyd mab Carea, a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad, a ddaethant at Gedaleia i Mispa, ‘
º14 Ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti yn hysbys i Baalis, brenin meibion Ammon, anfon Ismael mab Nethaneia i’th ladd di? Ond ni chredodd Gedaleia mab Ahicam iddynt hwy.
º15 Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol, gan ddywedyd. Gad i mi fyned, atolwg, a mi a laddaf Ismael mab Neth¬aneia, ac ni chaiff neb wybod: paham y lladdai efe di, fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti, ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda?
º16 Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea, Na wna y peth hyn: canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.
PENNOD 41
º1 A yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o’r had brenhinol, a phendefigion y brenin, sef dengwr gydag ef, at Gedaleia mab Ahicam i Mispa: a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa.
º2 Ac Ismael mab Nethaneia a gyfododd, efe a’r dengwr oedd gydag ef, ac a drawsant Gedaleia mab Ahicam mab Saffan â’r cleddyf , ac a’i lladdasant ef, yr hwn a osodasai brenin Babilon yn llywydd ar y wlad.
º3 Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef, sef gyda Gedal¬eia, ym Mispa, a’r Caldeaid y rhai a gafwyd yno, y rhyfelwyr.
º4 A’r ail ddydd wedi iddo ef ladd Gedaleia, heb neb yn gwybod,
º5 Yna y daeth gwŷr o Sichem, o Seilo, ac o Samaria, sef pedwar ugeinwr, wedi eillio eu barfau, a rhwygo eu dillad, ac ymdorri, ag offrymau ac a thus yn eu dwylo, i’w dwyn i dŷ yr ARGLWYDD.
º6 Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i’w cyfarfod hwynt, gan gerdded rhagddo, ac wylo; a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch at Gedaleia mab Ahicam.
º7 A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas, yna Ismael mab Nethaneia a’u lladdodd hwynt, ac a’u bwriodd i ganol y pydew, efe a’r gwŷr oedd gydag ef.
º8 Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, Na ladd ni: oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes, o wenith, ac o haidd, ac o olew, ac o fêl. Felly efe a beidiodd, ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr.
º9 A’r pydew i’r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasai efe er mwyn Gedaleia, yw yr hwn a wnaethai y brenin Asa, rhag ofn Baasa brenin Israel: hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi a’r rhai a laddasid.
º10 Yna Ismael a gaethgludodd ho}! weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa, sef merched y brenin, a’r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa, ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Geda leia mab Ahicam yn llywydd: ac Ismael mab Nethaneia a’u