Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/757

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

caethgludodd hwynt, ac a ymadawodd i fyned drosodd ay feibion Ammon.

º11 Ond pan glybu Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yr holl ddrwg a wnaethai Ismael mab Nethaneia;

º12 Yna hwy a gymerasant eu holl wŷr, ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nethaneia, ac a’i cawsant ef wrth y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon.

º13 A phan welodd yr holl bobl, y rhai oedd gydag Ismael, Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yna hwy a lawenychasant.

º14 Felly yr holl bobl, y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa, a droesant ac a ddychwelasant, ac a aethant at Johanan mab Carea.

º15 Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd, ynghyd ag wythnyn, oddi gan Johanan, ac a aeth at feibion Ammon.

º16 Yna Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, a gymerasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia, o Mispa, (wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam,) sef cedyrn ryfelwyr, a’r gwragedd, a’r plant, a’r ystafellyddion, y rhai a ddygasai efe. o Gibeon.

º17 A hwy a aethant oddi yno, ac a eisteddasant yn nhrigfa Chimham, yn agos at Bethlehem, i fyned i’r Aifft,

º18 Rhag y Caldeaid: oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam, yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad.


PENNOD 42

º1 FELLY holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a’r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant,

º2 Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy DDUW, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;)

º3 Fel y dangoso yr ARGLWYDD dy DDUW i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a’r peth a wnelom.

º4 Yna Jeremeia y proffwyd a ddy¬wedodd wrthynt, Myfi a’ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr ARGLWYDD eich Duw yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr ARGLWYDD amdanoch, myfi a’i mynegaf i chwi: nid ataliaf ddim oddi wrthych.

º5 A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia, Yr ARGLWYDD fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni, onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi atom ni.

º6 Os da neu os drwg fydd, ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw.

º7 Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia.

º8 Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr,

º9 Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef;

º10 Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a’ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a’ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi.

º11 Nac oinwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr ARGLWYDD: canys myfi a fyddaf gyda chwi i’ch achub, ac i’ch gwaredu chwi o’i law ef.

º12 A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i’ch gwlad eich hun.

º13 Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw,

º14 Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Ain’r yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain