Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/758

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni:

º15 Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr ARGLWYDD Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno,

º16 Yna y bydd i’r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a’ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw.

º17 Felly y bydd i’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â’r cleddyf , â newyn, ac a haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt.

º18 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y r Iluoedd, Duw Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a’m digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i’r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.

º19 O gweddill Jwda, yr ARGLWYDD a ddywedodd amdanoch, Nac ewch i’r Aifft: gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw.

º20 Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr ARGLWYDD eich Duw, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr ARGLWYDD ein Duw, a nyni a’i gwnawn.

º21 A mi a’i mynegais i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, nac ar ddim oll a’r y danfoffodd efe fi atoch o’i blegid.

º22 Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.


PENNOD 43

º1 A PHAN ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr AR¬GLWYDD eu Duw, am y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD eu Duw ef atynt, sef yr holl eiriau hyn:,

º2 Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a’r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr ARGLWYDD ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno.

º3 Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i’n lladd, ac i’n caethgludo i Babilon.

º4 Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na’r holl bobl, ar lais yr ARGLWYDD, i drigo yn nhir Jwda:

º5 Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda;

º6 Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a’r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia.

º7 Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD; fel hyn y daethant i Tapanhes.

º8 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd,

º9 Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda;

º10 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt,

º11 A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a’r rhai sydd i gaethiwed, a chaethiwed; a’r rhai sydd i’r cleddyf, â’r cleddyf.