Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/759

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º12 A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a’u llysg hwynt, ac a*u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg a gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch.

º13 Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.


PENNOD 44

º1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia, am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, ac yn preswylio ym Migdol, ac yn Tapanhes, ac yn Noff, ac yng ngwlad Pathros, gan ddywedyd

º2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn Iluoedd, Duw Israel; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem, ac ar holl ddinasoedd Jwda; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd, ac heb breswylydd ynddynt:

º3 O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i’m digio i, gan fyned i arogl-darthu, ac i wasanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na’ch tadau.

º4 Er i mi anfon atoch fy holl weision y proffwydi, gan foregodi, ac anfon, i ddy¬wedyd, Na wnewch, atolwg, y ffieiddb’eth hyn, yr hwn sydd gas gennyf fi:

º5 Eto ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu dust, i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni, fel nad arogl-darthent i dduwiau dieithr.

º6 Am hynny y tywalltwyd fy llid a’m digofaint, ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem; ac y: maent hwy yn anghyfannedd, ac ynl ddiffeithwch, fel y gwelir heddiw.

º7 Ac yn awr fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW y lluoedd, Duw Israel; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau, i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig, plentyn, a’r hwn sydd yn sugno, allan o Jwda, fel na adawer i chwr weddill?

º8 Gan fy nigio i a gweithredoedd eich dwylo, gan arogl-darthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft, yr hon yr aethoch i aros ynddi, i’ch difetha eich hunain, ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear. ‘\

º9 A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Jwda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a’ch dryg¬ioni eich hunain, a drygioni eich gwrag¬edd, y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?

º10 Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o’ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau.

º11 Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, chwi er niwed, ac i ddifetha holl Jwda.

º12 A mi a gymeraf weddill Jwda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant: trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy y cleddyf a: thrwy newyn y byddant feirw: a hwy;a fyddant yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth.

º13 Canys myfi a ymwelaf a thrigolion gwlad yr Aifft, fel yr ymwelais a Jerw¬salem, a chleddyf, a newyn, ac a haint:

º14 Fel na byddo un a ddihango, nac a adawer o weddill Jwda, y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aifft, i ddy¬chwelyd i wlad Jwda, yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi; canys ni ddychwel ond y rhai a ddihangant.

º15 Yna yr holl wŷr y rhai a wyddent i’w gwragedd arogl-darthu i dduwiau dieithr, a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno, cynulleidfa fawr, yr holl bobl y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, yn Pathros, a atebasant Jeremeia, gan ddywedyd, x6 Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr ARGLWYDD, ni wrandawn ni arnat.

º17 Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogl-darthu i fren-