Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/761

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hyn a blennais, nid’ amgen yr holl wlad hon.

º5 Ac a geisi di fawredd i ti dy hun? Na chais: canys wele, myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd, medd yr ARGLWYDD: ond mi a roddaf i ti dy einioes yn ysglyfaeth ym mha le bynnag yr elych di.


PENNOD 46

º1 GAIR yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, yn erbyn y Cenhedloedd,

º2 Yn erbyn yr Aifft, yn erbyn llu Pharo-necho brenin yr Aifft, yr hwn oedd wrth afon Ewffrates yn Carchemis, yr hwn a ddarfu i Nebuchodonosor brenin Babilon ei daro, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda.

º3 Teclwch y darian a’r astalch, a nesewch i ryfel.

º4 Cenglwch y meirch, ac ewch arnynt, farchogion; sefwch yn eich helmau, gloywch y gwaywffyn, gwisgwch y llurigau.

º5 Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig, wedi cilio yn eu hôl, a’u cedyrn wedi eu curo i lawr, a ffoi ar ffrwst, ac heb edrych yn eu hôl? dychryn sydd o amgylch, medd yr ARGLWYDD.

º6 Na chaed y buan ffoi, na’r cadarn ddianc; tua’r gogledd, gerllaw afan Ewffrates, y tripiant, ac y syrthiant.

º7 Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon, a’i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd?

º8 Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi, a’i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonyddi: a hi a ddywed. Mi a af i fyny, ac a orchuddiaf y ddaear; myfi a ddifethaf y ddinas, a’r rhai sydd yn trigo ynddi.

º9 O feirch, deuwch i fyny; a chwithau gerbydau, ymgynddeiriogwch; a deuwch allan y cedyrn; yr Ethiopiaid, a’r Libiaid, y rhai sydd yn dwyn tarian; a’r Lydiaid, y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa.

º10 Canys dydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hwn, dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynion: â’r cleddyf a ysa, ac a ddigonir, ac a feddwir xxx â’u gwaed hwynt: canys aberth sydd i ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates.

º11 O forwyn, merch yr Aifft, dos i fyny i Gilead, a chymer driagi: yn ofer yr arferi lawer o feddyginiaethau; canys ni bydd iachâd i ti.

º12 Y cenhedloedd a glywsant dy waradwydd, a’th waedd a lanwodd y wlad; canys cadarn wrth gcidarn a dramgwyddodd, a hwy ill dau a gydsyrthi- xxx ihant.

º13 Y gair yr hwn a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia y proffwyd, y deuai Nebuchodonosor bremn Babilon-, ac y trawai wlad yr Aifft.

º14 Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch ym Migdol, hysbyswch yn Noff, ac yn Tapanhes: dywedwch, Saf, a bydd barod, oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd.

º15 Paham y syrthiodd dy rai cryfion? ni safasant, am i’r ARGLWYDD eu gwthio hwynt.

º16 Efe a wnaeth i lawer syrthio, ie, pawb a syrthiodd ar ei gilydd; a hwy a ddywedasant, Cyfodwch, a dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr.

º17 Yno y gwaeddasant, Pharo brenin yr Aifft nid yw ond trwst; aeth dros yr amser nodedig.

º18 Fel mai byw fi, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd, cyn sicred a bod Tabor yn y mynyddoedd, a Channel yn y môr, efe a ddaw.

º19 O ferch drigiannol yr Aifft, gwna i ti offer caethglud; canys Noff a fydd ang-hyfannedd, ac a ddifethir heb breswylydd.

º20 Yr Aifft sydd anner brydferth, y mae dinistr yn dyfod: o’r gogledd y mae yn dyfod.

º21 Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o’i mewn hi fel lloi pasgedig: canys hwythau hefyd a droesant eu hwynebau, ac a gydffoesant; ac ni safasant, oherwydd dydd eu gofid, ac amser eu gofwy a ddaethai arnynt.

º22 Ei llais hi a â allan fel sarff: canys a llu yr ânt hwy, ac a bwyeill y deuant yn ei herbyn hi, fel cymynwyr coed.

º23 Hwy a gymynant i lawr ei choed hi, medd yr ARGLWYDD, er na ellir ei chwilio: canys amiach fyddant na’r ceiliogod rhedyn, ac heb nfedi arnynt.