Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/762

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º24 Merch yr Aifft a gywilyddir; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd.

º25 ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel-, sydd yn dywedyd, Wele, myfi a ymwelaf a lliaws No, ac a Pharo, ac a’r Aifft, ac a’i duwiau hi, ac a’i brenhinoedd, sef a Pharo, ac a’r rhai sydd yn ymddiried ynddo;

º26 A mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac yn llaw ei weision ef; ac wedi hynny hi a gyfanheddir megis y dyddiau gynt, medd yr ARGLWYDD.

º27 Ond nac ofna di, O fy ngwas Jacob; a thithau Israel, na ddychryna; canys wele, myfi a’th gadwaf di o bell, a’th had o wlad eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a fydd es-mwyth arno, ac heb neb a’i dychryno.

º28 O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr ARGLWYDD; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn, ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr.


PENNOD 47

º1 GAIR yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa.

º2 Fel hynydywedyr ARGLWYDD; Wele, dyfroedd a gyfodant o’r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a’r hyn sydd ynddi; y ddinas, a’r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant.

º3 Rhag sŵn twrfcarnau ei feirch cryfion, rhag trwst ei gerbydau, a thrwst ei olwynion ef, y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant, gan wendid dwylo:

º4 O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr ARGLWYDD a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor.

º5 Moeini a ddaeth ar Gasa, torrwyd ymaith Ascalon, gyda’r rhan arall o’u dyffrynnoedd hwynt: pa hyd yr ymrwygi di?

º6 O cleddyf yr ARGLWYDD, pa hyd m lonyddi? dychwel i’th wain, gorffwys a bydd ddistaw.

º7 Pa fodd y llonydda efe, gan i’r AR¬GLWYDD ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr? yno y gosododd ef.


PENNOD 48

º1 FEL hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, yn erbyn Moab; Gwae Nebo! canys hi a anrheithiwyd: gwaradwyddwyd Ciriathaim, ac enillwyd hi; Misgab a waradwyddwyd, ac a ddychrynwyd.

º2 Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i’w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a’th erlid.

º3 Llefyn gweiddi a glywir o Horonaim; finrhaith, a dinistr mawr.

º4 Moab a ddistrywiwyd; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd.

º5 Canys yn rhiw Luhith, galar a â i fyny mewn wylofain, ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr.

º6 Ffowch, achubwch eich einioes; a ‘byddwch fel y grug yn yr anialwch.

º7 Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a’th drysorau dy hun, tithau a ddelir: Cemos hefyd a â allan i gaethiwed, a’i offeiriaid a’i dywysogion ynghyd.

º8 A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a’r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr ARGLWYDD.

º9 Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.

º10 Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr ARGLWYDD yn dwyllodrus, a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed.

º11 Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwa-ddod, ac ni thywalltwyd- hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei bias arni, ac ni newidiodd ei harogl.