Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/764

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º41 Y dinasoedd a oresgynnir, a’r amddinynfeydd a enillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.

º42 A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi ymfawrygu yn erbyn yr AR¬GLWYDD.

º43 Ofn, a ffoSg a magi a ddaw ama ti, trigiannol Moab, medd yr A-RGLWMgg),. /

º44 Y neb a ffy rhag yr ofn, a syrth yn y fibs; a’r hwn a gyfyd o’r ffos, a ddelir yn y fagi: canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr ARGLWYDD.

º45 Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid: eithr tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a ysa gongl Moab, a chorun y meibion trystfawr.

º46 Gwae di, Moab! darfu am bobl Cemos: canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion, a’th ferched yn gaethion.

º47 Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf, medd yr ARGLWYDD. Hyd yma y mae barn Moab.


PENNOD 49

º1 AM feibion Ammon, fel hyn y dywed -lx yr ARGLWYDD; Onid oes meibion i Israel? onid oes etifedd iddo? paham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad, a’i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef? ‘

º2 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon, a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol, a’i merched hi a losgir â thân: yna Israel a feddianna y rhai a’i meddianasant ef, medd yr ARGLWYDD.

º3 Uda, Hesbon, am anrheithio Ai: gwaeddwch, chwi ferched Rabba, ymwre-gyswch mewn sachliain; alaethwch, a gwibiwch gan y gwrychoedd: oblegid eu brenin a â i gaethiwed, ei offeiriaid a’i benaethiaid ynghyd.

º4 Paham yr ymffrosti di yn y dynrynnoedd? llifodd dy ddyffryn di ymaith, O ferch wrthnysig, yr hon a ymddiriedodfl yn ei thrysorau, gan ddywedyd, Pwy a ddaw ataf fi?

º5 Wele, myfi a ddygaf arswyd arnat ti, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, rhag pawb o’th amgylch: a chwi a yrrir allan bob un o’i flaen, ac ni bydd a gasglo y crwydrad.

º6 Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon, medd yr ARGLWYDD.

º7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd am Edom; Onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt?

º8 Ffowch, trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy.

º9 Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti, oni weddillent hwy loffion grawn? pe lladron liw nos, hwy a anrheithient nes cael digon.

º10 Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddatguddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei had ef a ddifethwyd, a’i frodyr a’i gymdogion, ac nid yw efe.

º11 Gad dy amddifaid, myfi a’u cadwaf hwynt yn fyw, ac ymddirieded dy.wedd-won ynof fi.

º12 Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o’r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr.

º13 Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felltith, y bydd Bosra; a’i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol.

º14 Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr ARGLWYDD) bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd, yn dywedyd, Ymgesglwch;, a deuwch yn ei herbyn hi, a chyfodwch i’r rhyfel.

º15 Oherwydd wele, myfi a’th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd, ac yn wael ymhlith dynion.

º16 Dy erwindeb a’th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y_ graig, ac yn meddiannu uchelder y bryn: er i ti osod dy nyth cyn uched â’r eryr, myfi a