wnaf i ti ddisgyn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.
º17 Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd: pawb a’r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.
º18 Fel yn ninistr Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr ARGLWYDD; ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.
º19 Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i?
º20 Am hynny gwrandewch gyngor yr ARGLWYDD, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.
º21 Gan lef eu cwymp hwynt y cryn y ddaear: llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch.
º22 Wele, fel eryr y daw i fyny, ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.
º23 Am Damascus. Hamath ac Arpad a waradwyddwyd; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg; llesmeiriasant; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys.
º24 Damascus a lesgaodd, ac a ymdry i ffoi, ond dychryn a’i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a’i daliodd hi fel gwraig yn esgor. ‘.’
º25 Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd?
º26 Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a’r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd AR¬GLWYDD y lluoedd.
º27 A mi a gyneuaf dân ym mur Damas¬cus, ac efe a ddifa lysoedd Bcnhadad.
º28 Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hasor, y rhai a ddinistria Nebuchodunosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Cyfodwch, ewch i fyny yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain.
º29 Eu lluestai a’u diadellau a gymerant ymaith; eu llenni, a’u holl lestri, a’u camelod, a gymerant iddynt eu hunain; a hwy a floeddiant arnynt, Y mae ofn o amgylch.
º30 Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr ARGLWYDD: oherwy4d, Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.
º31 Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal’a medd yr ARGLWYDD, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo.
º32 A’u camelod a fydd yn anrhaith, a’u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr ARGLWYDD.
º33 Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, ac yn anghyfannedd byth: ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.
º34 Gair yr ARGLWYDD yr hwn EI ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, gan ddywedyd,
º35 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt.
º36 A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd, a mi a’u gwasgaraf hwynt tua’r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam.
º37 Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion, a’r rhai a geisiant eu heinioes; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr ARGLWYDD; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt.
º38 A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam, a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a’r tywysogion, medd yr ARGLWYDD.
º39 Ond yn y dyddiau diwethaf, myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam, medd yr ARGLWYDD.
PENNOD 50