Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/766

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º1 Y GAIR a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon, ac yn erbyn gwlad y Caldeaid, trwy Jeremeia y proffwyd.

º2 Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd; cyhoeddwch, na chelwch: dywedwch, Goresgynnwyd Babilon, gw aradwyddwyfl Bel, drylliwyd Merodach: ei heilunod a gywilyddiwyd, a’i delwau a ddrylliwyd.

º3 Canys o’r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi, yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd, fel na byddo preswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymaith.

º4 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, meibion Israel a ddeuant, hwy a meibion Jwda ynghyd, dan gerdded ac wyle yr ant, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu Duw.

º5 Hwy a ofynnant y ffordd i Seion, tuag yno y bydd eu hwynebau hwynt: Deuwch, meddant, a glynwn wrth yr ARGLWYDD, trwy gyfamod tragwyddol yr hwn nid anghofir.

º6 Fy mhobl a fu fel praidd colledigs eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa.

º7 Pawb a’r a’u cawsant a’u difasant, a’u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr ARGLWYDD, trigle cyfiawnder; sef yr ARGLWYDD, gobaith eu tadau.

º8 Ciliwch o ganol Babilon, ac ewch allan o wlad y Caldeaid; a byddwch fel bychod o flaen y praidd.

º9 Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynull.. eidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn, oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfar1-wydd; ni ddychwelant yn ofer.

º10 A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a’r a’i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr ARGLWYDD.

º11 Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasau fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw;

º12 Eich main a gywilyddir yn ddirfawr, a’r hon a’ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olafo’r cenhedloedd yn anialweh, yn grastir, ac yn ddiffeithwch.

º13 Oherwydd i digofaint, yr ARSIJWYDD nis preswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd: pawb a êl heibio i Babiloo a synna, ac a chwibana am ei holl ddial" eddau hi.

º14 Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch; yr holl berchen bwâu, saethwch ati, nac arbedwch saethau: oblegid hi a bechodd yn erbyn yr ARGLWYDD.

º15 Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr ARGLWYDD yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi.

º16 Torrwch ymaith yr heuwr o Babilon, a’r hwn a ddalio gryman ar amser cynhaeaf: rhag cleddyf y gorthrymwr J troant bob un at ei bobl ei hun, ac y ffoant bob un i’w wlad.

º17 Fel dafad ar wasgar yw Israel, llewod a’i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a’i hysodd, a’r Nebu-chodonosor yma brenin Babilon yn olaf a’i diesgyrnodd.

º18 Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wek, myfi a ymwelaf a brenin Babilon, ac al wlad, fel yr ymwelais a brenin Asyria.

º19 A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef.

º20 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf.

º21 DOS i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ie, yn ei herbyn hi, ac yn erbyn tngolion Pecod: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt, medd yr ARGLWYDD, a gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti.

º22 Trwst rhyfel sydd yn y wlad, a dinistr mawr.

º23 Pa fodd y drylliwyd ac y torrwyd gordd yr holl ddaear! pa fodd yr aetfa Babilon yn ddiffeithwch ymysg y cen¬hedloedd !