Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/767

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º24 Myfi a osodais fagi i ti, a thithau Babilon a ddaliwyd, a heb wybod i ti: ti a gafwyd ac a ddaliwyd, oherwydd i ti ymryson yn erbyn yr ARGLWYDD.

º25 Yr ARGLWYDD a agorodd ei drysor, ac a ddug allan arfau ei ddigofaint: canys gwaith ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid.

º26 Deuwch yn ei herbyn o’r cwr eithaf, agorwch ei hysguboriau hi, dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni.

º27 Lleddwch ei holl fustych hi; disgyrt-nant i’r lladdfa: gwae hwynt! canys en dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad.

º28 Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon, i ddangos yn Seion ddial yr ARGLWYDD ein Duw ni, dial ei deml ef.

º29 Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i’w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.

º30 Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi; a’i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr AR¬GLWYDD.

º31 Wele fi yn dy erbyn di, O falch, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd: oherwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyf athi.

º32 A’r balch a dramgwydda ac a syrth, ac ni bydd a’i cyfodo: a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef.

º33 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a’r a’u caethiwodd hwynt a’u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith.

º34 Eu Gwaredwr sydd gryf; AR¬GLWYDD y lluoedd yw ei enw; efe a lwyr ddadlau eu dadi hwynt, i beri llonydd i’r wlad, ac allonyddwch i breswylwyr Babilon.

º35 Cleddyf sydd ar y Caldeaid, medd yr ARGLWYDD, ac ar drigolion Babilon, ac ar ei thywysogion, ac ar ei doethion.

º36 Cleddyf sydd ar y celwyddog, <a hwy a ynfydant: cleddyf sydd ar ei chedyrn, a hwy a ddychrynant.

º37 Cleddyf sydd ar ei meirch, ac ar i cherbydau, ac ar yr holl werin sydd yn ei chanol hi; a hwy a fyddant fel gwragedd: cleddyf sydd ar ei thrysorau; a hwy a ysbeilir.

º38 Sychder sydd ar ei dyfroedd hi, a hwy a sychant: oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi, ac mewn eilunod y maent yn ynfydu.

º39 Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialweh, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyf-anheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth,

º40 Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr ARGLWYDD; felly ni phreswylia neb yno, ac ni erys mab dyn ynddi.

º41 Wele, pobl a ddaw o’r gogledd, a chenedl fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear.

º42 Y bwa a’r waywffon a ddaliant; creulon ydynt, ac ni thosturiant: eu llef fel môr a rua, ac ar feirch y marchogant yn daclus i’th erbyn di, merch Babilon, fel gŵr i ryfel.

º43 Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt, a’i ddwylo ef a lesgasant: gwasgfa a’i daliodd ef, a gwewyr fel gwraig wrth esgor.

º44 Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i?

º45 Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr ARGLWYDD, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Babilon, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlad y Caldeaid: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy, xxx yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.

º46 Gan drwst goresgyniad Babilon y cynhyrfa y ddaear, ac y clywir y waedd ymysg y cenhedloedd.


PENNOD 51