Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/770

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º52 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan ymwelwyf fi s, i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr .ircholledig a riddfan.

º53 Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd, W er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi frrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.

º54 Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid.

º55 Oherwydd yr ARGLWYDD a anrheithjodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o’l thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu Itef hwynt.

º56 Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a’i chedym hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys ARGLWYDD DDUW y gwobr a obrwya yn sicr.

º57 A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a’i doethion, ei phenaethiaid, a’i swyddogion, a’i chedym: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd.

º58 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a’i huchel byrth a losgir â thân; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd, a’r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant.

º59 Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd.

º60 Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar. ddyfod yn erbyn Babilon, mewn un llyfr; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.

º61 A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia, Pan ddelych i Babilon, a gweled, a darllen yr holl eiriau hyn;

º62 Yna dywed, O ARGLWYDD, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddai ynddo breswylydd, na dyn nac anifail, eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol.

º63 A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Ewffrates;

º64 A dywed, Fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygaf fi ami: a hwy a ddiffygiant. Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia.


PENNOD 52

º1 MAB un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Jehoiacim.

º3 Oherwydd gan ddigofaint yr AR¬GLWYDD y bu, yn Jerwsalem ac yn Jwda, hyd oni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg, wrthryfela o Sedeceia yn erbyn brenin Babilon.

º4 Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrn¬asiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch.

º5 Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia.

º6 Yn y pedwerydd mis, yn y nawfed dydd o’r mis, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlad.

º7 Yna y torrwyd y ddinas; a’r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos.

º8 Ond llu y Caldeaid a ymBdiasant ar ôl y brenin, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, a’i holl lu ef a wasgarwyd oddi wrtho.

º9 Yna hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef at frenin Babilon i Ribia yng ngwlad Hamath; ac efe a roddodd farn arno ef.

º10 A brenin Babilon a laddodd