Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/771

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

feibioo Sedeceia yng ngŵydd ei lygaid ef: efe a laddodd hefyd holl dywysogion Jwda yn Ribla.

º11 Yna efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef a chadwyni: a brenin Babilon a’i harweiniodd ef i Babilon, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy hyd ddydd ei farwolaeth.

º12 Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o’r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebu¬chodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem;

º13 Ac efe a losgodd d yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a pho’o tŷ mawr, a losgodd efe â thân.

º14 A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch.

º15 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o’r bobl wael, a’r gweddill o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a’r gweddill o’r bobl.

º16 Ond Nebusaradan pennaeth y mil¬wyr a adawodd rai o diodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr.

º17 A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr AR¬GLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon.

º18 A hwy a ddygasant ymaith y croch-anau, a’r rhawiau, a’r saltringau, a’r, cawgiau, a’r thuserau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt.

º19 A’r ffiolau, a’r pedyll tân, a’r cawg¬iau, a’r crochanau, a’r canwyllbrennau, a’r thuserau, a’r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn anan, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith.

º20 Y ddwy golofn, un mor, a deuddeg o ychen pres, y rhai oedd dan yr ystolion. y rhai a wnaethai y brenin Solomon, yn nhŷ yr ARGLWYDD: nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn.

º21 Ac am y colofnau, deunaw cufydd oedd uchder un golofn, a llinyn o ddeu-ddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu: a’i thewder yn bedair modfedd; ac yn gau,;a’ oedd.,g

º22 A chnap pres oedd arni, a phum cufydd oedd uchder un cnap; a rhwyd-waith a phomgranadau ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a’i phomgranadau.

º23 A’r pomgranadau oeddynt, onid s pedwar, cant ar ystlys: yr holl bom-granadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant.

º24 A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad, a Seffaneia yy ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drwa.

º25 Ac efe a gymerodd o’r ddinas ystaf-. ellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennafy brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanot y ddinas.

º26 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn, ac a aeth â hwynt i Ribla, at frenin Babilon.

º27 A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Fel hyn y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun.

º28 Dyma y bobl a gaethgludodd, Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon.

º29 Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion.

º30 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor, Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant.

º31 Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o’r mis, Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad, a ddyr-chafodd ben Jehoiachin brenin Jwda, ac a’i dug ef allan o’r carchardy;