Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/773

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gwinwryf y sathrodd yr ARGLWYDD y forwyn, merch Jwda.

1:16 Am hyn yr ydwyf yn wylo; y mae fy llygad, fy llygad, yn rhedeg gan ddwfr, oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid: fy meibion sydd anrheithiedig, am i'r gelyn orchfygu.

1:17 Seion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr ARGLWYDD a orchmynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch: Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt.

1:18 Cyfiawn yw yr ARGLWYDD; oblegid myfi a fûm anufudd i'w air ef: gwrandewch, atolwg, bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morynion a'm gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed.

1:19 Gelwais am fy nghariadau, a hwy a'm twyllasant; fy offeiriaid a'm hynafgwyr a drengasant yn y ddinas, tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid.

1:20 Gwêl, O ARGLWYDD; canys y mae yn gyfyng arnaf: fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy nghalon a drodd ynof; oherwydd fy mod yn rhy anufudd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, megis marwolaeth sydd gartref.

1:21 Clywsant fy mod i yn ucheneidio: nid oes a'm diddano: fy holl elynion, pan glywsant fy nrygfyd, a lawenychasant am i ti wneuthur hynny: ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist, a hwy a fyddant fel finnau.

1:22 Deued eu holl ddrygioni hwynt i ni o'th flaen di; a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minnau, am fy holl gamweddau: oblegid y mae fy ucheneidiau yn aml, a'm calon yn ofidus.


PENNOD 2

2:1 Pa fodd y dug yr ARGLWYDD gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o'r nefoedd, ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint!

2:2 Yr Arglwydd a lyncodd, heb arbed, holl anheddau Jacob; efe a ddifrododd yn ei ddicter amddiffynfeydd merch Jwda; efe a'u tynnodd hwynt i lawr, ac a ddifwynodd y deyrnas a'i thywysogion.

2:3 Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel: efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd, yr hon a ddifa o amgylch.

2:4 Efe a anelodd ei fwa fel gelyn; safodd â'i ddeheulaw fel gwrthwynebwr, ac a laddodd bob dim hyfryd i'r golwg ym mhabell merch Seion: fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint.

2:5 Yr Arglwydd sydd megis gelyn: efe a lyncodd Israel, efe a lyncodd ei holl balasau hi: efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda.

2:6 Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd; efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa: yr ARGLWYDD a wnaeth anghofio yn Seion yr uchel ŵyl a'r Saboth, ac yn llidiowgrwydd ei soriant y dirmygodd efe y brenin a'r offeiriad.

2:7 Yr ARGLWYDD a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gysegr; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: rhoddasant floedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, megis ar ddydd uchel ŵyl.

2:8 Yr ARGLWYDD a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion; efe a estynnodd linyn, ac nid ataliodd ei law rhag difetha: am hynny y gwnaeth efe i'r rhagfur ac i'r mur alaru; cydlesgasant.

2:9 Ei phyrth a soddasant i'r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: ei brenin a'i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd: heb gyfraith y mae; a'i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr ARGLWYDD.

2:10 Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr, a dawant â son; gosodasant uwch ar eu pennau; ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr.

2:11 Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau, fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy afu a dywalltwyd ar y ddaear, oherwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a'r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas.

2:12 Hwy a ddywedant wrth eu mamau, Pa le y mae ŷd a gwin? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas, pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau.