Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/778

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

18 Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy: a'u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar.

19 A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion.

20 I'r lle y byddai yr ysbryd i fyned, yr aent, yno yr oedd eu hysbryd ar fyned,:, a'r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion.

21 Cerddent pan gerddent hwythau, a -safent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion.

22 Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen, fel lliw grisial ofnadwy, wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd.

23 A than y ffurfafen yr oedd eu haden" ydd hwynt yn union, y naiU /iuag ar, y llall: dwy i bob un yn eu itfddio i»'r naill du, a dwy i bob un y& c;i/dio eu cyrff o'r tu arall. '

24 A mi a glywn swn eu haadenydd hwynt, fel swn dyfroedd lawer, fel s' it yr Hollalluog, pan gerddent: swn llef-erydd, fel swn llu: pan safent, llaesent eu hadenydd.

25 Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, pan safent, ac y llaesent eu hadenydd.

26 Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc, fel gwelediad maen saffir; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn.

27 Gwelais hefyd megis lliw ambr, fel gwelediad tan o'i fewn o amgylch: o welediad ei Iwynau ac uchod, ac o weled-iad ei Iwynau ac isod, y gwelais megis gwelediad tân, a disgleirdeb iddo oddi amgylch.

28 Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog, fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch.

Dyma welediad cyffelybrwydd: gogoniant yr ARGLWYDD, A phan welaiSi syrthiais ar fy wyneb, a chlywais taisinn yn llefaru.


PENNOD 2

1 A efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, saf ar dy draed, a mi a lefaraf wrthyt.

2 A'r ysbryd a aeth ynof, pan lefarodd efe wrthyf, ac a'm gosododd ar fy nhraed, fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthyf.

3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dya, yr ydwyf fi yn dy ddanfon di at feib on Israel, at genedl wrthryfelgar, y rhai a wrthryfelasant i*m herbyn; hwynt-lrivy a'u tadau a droseddasant i'm herbyn, hyd gorff y dydd hwn.

4 Meibion wyneb-galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt: dywed dithau wrthynt. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW.

5 A pha un bynnag a wnelont ai gwrando, ai peidio, (canys fy gwrthryfelgar , ydynt,) eto cant wybod fod proffwyd ya eu mysg hwynt.

6 Tithau fab dyn, nac ofna rhag" ddynt, ac na arswyda er eu geiriau hwynt, er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi, a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau: nae ofna rhag en geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, er msa ty gwrthryfelgar ydynt.

7 Eto llefara di fy ngeiriau wrthynt, pa un bynnag a wnelont ai gwrando w peidio; canys gwrthryfelgar ydynt.

8 Tithau fab dyn, gwrando yr hyn yr ydwyf fi yn ei lefaru wrthyt, Na fydd di wrthryfelgar fel y ty gwrthryfelgar hwa; lleda dy safn, a bwyta yr hyn yr ydwyf fi yn ei roddi i ti.

9 Yna yr edrychais, ac wele law wedi ei hanfon ataf, ac wele ynddi blyg llyfr.

10 Ac efe a'i dadblygodd o'm blacn i; ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn; ac yr oedd wedi yagrifennu arno, gator, a griddfan, a gwae.


PENNOD 3

1 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, bwyta yr hyn a geffych,