5:11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a'r morynion yn ninasoedd Jwda.
5:12 Crogasant dywysogion â'u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr.
5:13 Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed.
5:14 Yr hynafgwyr a beidiasant â'r porth; y gwŷr ieuainc â'u cerdd.
5:15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar.
5:16 Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom!
5:17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid.
5:18 Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo.
5:19 Ti, ARGLWYDD, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd.
5:20 Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau ?
5:21 Dychwel ni, O ARGLWYDD, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt.
5:22 Eithr ti a'n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.
LLYFR Y PROFFWYD ESECIEL
PENNOD 1
1 A DARFU yn y ddegfed fiwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd mis, ar y pumed dydd o'r mis, (a mi ymysg y gaethglud wrth afon Chebar,) agoryd y nefoedd, a gwelwn weledigaethau Duw.
2 Yn y pumed dydd o'r mis, honno oedd y burned flwyddyn o gaethgludiad brenin Jehoiachin,
3 Y daeth gair yr ARGL YDD yn eglur at Eseciel yr offeiriad, mab Busi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr ARGLWYDD arno ef.
4 Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod
o'r gogledd gorwyat, a chwmwl mawr, a thfin yn ymgymryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o'i gSnol, sef o ganol y tân, fel Uiw ambr.
5 Hefyd o'i ganol y daetb cyffelyb-rwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; dull dyn oedd iddynt,
6 A phedwar wyneb i bob un, a phedair adam i bob un ohonynt.
7 A'u traed yn draed union; a gwadn eu traed fel gwadn troed Uo; a gwreichioni yr oeddynt fel Uiw efydd gloyw.
8 Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a'u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar.
9 Eu hadenydd hwynt oedd wedi en cysylitu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni throent; aent bob un yn union rhag ei wyneb.
10 Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb Hew, oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar: ac wyneb ych o'r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb. eryr iddynt ill pedwar.
11 Dyma eu hwynebau hwynt; a'u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi amodd, dwy i bob un wedi eu cysylitu a'i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrff.
12 Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb; i'r lle y byddai yr ysbryd ar fyned, yno yr aent; ni throent pan gerddent.
13 Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o'r tân.
14 Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.
15 Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyi y pethau byw un olwyn, gyda'i bedwar wyneb.
16 Dull yr olwynion a'u gwaith oedd fel Uiw beryl: a'r un dull oedd iddynt ill pedair; a'u gwedd hwynt a'u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn.
17 Pan elent, aent ar eu pedwar ochr: ni throent pan gerddent.