Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/776

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylo'r crochenydd!

4:3 Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau, a roddant sugn i'w cenawon: merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr estrysiaid yn yr anialwch.

4:4 Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrai iddynt.

4:5 Y rhai a ymborthent yn foethus, a ddifethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad, a gofleidiant y tomennydd.

4:6 Canys mwy yw anwiredd merch fy mhobl na phechod Sodom, yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymwth, ni safodd llaw arni.

4:7 Purach oedd ei Nasareaid hi na'r eira, gwynnach oeddynt na'r llaeth, gwridocach oeddynt o gorff na'r cwrel, a'u trwsiad oedd o saffir.

4:8 Duach yw yr olwg arnynt na'r glöyn; nid adwaenir hwynt yn yr heolydd; eu croen a lŷn wrth eu hesgyrn, gwywodd, aeth yn debyg i bren.

4:9 Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf, na'r rhai a laddwyd â newyn; oblegid y rhai hyn a ddihoenant, wedi eu trywanu o eisiau cnwd y maes.

4:10 Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl.

4:11 Yr ARGLWYDD a gyflawnodd ei ddicter, a dywalltodd lidiowgrwydd ei soriant, ac a gyneuodd dân yn Seion, yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi.

4:12 Ni choeliasai brenhinoedd y ddaear, na holl drigolion y byd, y deuai y gwrthwynebwr a'r gelyn i mewn i byrth Jerwsalem.

4:13 Am bechodau ei phroffwydi, ac anwiredd ei hoffeiriaid, y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o'i mewn hi;

4:14 Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd, ac ymddifwynasant gan waed, fel na ellid cyffwrdd â'u dillad hwynt.

4:15 Gwaeddasant arnynt, Ciliwch; aflan yw; ciliwch, ciliwch, na chyffyrddwch; pan ffoesant, ac yr aethant ymaith. Dywedent ymysg y cenhedloedd, Ni thrigant hwy yma mwyach.

4:16 Soriant yr ARGLWYDD a'u gwasgarodd hwynt; nid edrych efe arnynt mwy: ni pharchent hwy yr offeiriaid, ni thosturient wrth yr hynafgwyr.

4:17 Ninnau hefyd, ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer: gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub.

4:18 Hwy a olrheiniant ein cerddediad, fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd: y mae ein diwedd ni yn agos, ein dyddiau ni a gyflawnwyd; canys daeth ein diwedd ni.

4:19 Buanach yw ein herlidwyr nag eryrod yr awyr; y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd, yn ein cynllwyn yn yr anialwch.

4:20 Anadl ein ffroenau, eneiniog yr ARGLWYDD, a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt, am yr hwn y dywedasem, Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd.

4:21 Bydd lawen a hyfryd, merch Edom, yr hon wyt yn trigo yn nhir Us: daw y cwpan atat tithau hefyd; ti a feddwi, ac a ymnoethi.

4:22 Gorffennwyd dy gosbedigaeth di, merch Seion; ni chaethgluda efe di mwy: efe a ymwêl â'th anwiredd di, merch Edom; efe a ddatguddia dy bechodau.


PENNOD 5

5:1 Cofia, O ARGLWYDD, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd.

5:2 Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.

5:3 Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon.

5:4 Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth.

5:5 Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni.

5:6 Rhoesom ein llaw i'r Eifftiaid, i'r Asyriaid, i gael digon o fara.

5:7 Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt.

5:8 Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a'n gwaredo o'u llaw hwynt.

5:9 Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch.

5:10 Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost.