Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/775

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

herwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.

3:23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.

3:24 Yr ARGLWYDD yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.

3:25 Daionus yw yr ARGLWYDD i'r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i'r enaid a'i ceisio.

3:26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.

3:27 Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn eu ieuenctid.

3:28 Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno.

3:29 Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith.

3:30 Efe a ddyry ei gern i'r hwn a'i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd.

3:31 Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr ARGLWYDD:

3:32 Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau.

3:33 Canys nid o'i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion.

3:34 I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed,

3:35 I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf,

3:36 Nid yw yr ARGLWYDD yn gweled yn dda wneuthur cam a gŵr yn ei fater.

3:37 Pwy a ddywed y bydd dim, heb i'r ARGLWYDD ei orchymyn?

3:38 Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da?

3:39 Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod?

3:40 Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr ARGLWYDD.

3:41 Dyrchafwn ein calonnau â'n dwylo at DDUW yn y nefoedd.

3:42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist.

3:43 Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist.

3:44 Ti a'th guddiaist dy hun a chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd.

3:45 Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl.

3:46 Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn.

3:47 Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr.

3:48 Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl.

3:49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra;

3:50 Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr ARGLWYDD o'r nefoedd.

3:51 Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas.

3:52 Fy ngelynion gan hela a'm heliasant yn ddiachos, fel aderyn.

3:53 Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf.

3:54 Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen; dywedais, Torrwyd fi ymaith.

3:55 Gelwais ar dy enw di, O ARGLWYDD, o'r pwll isaf.

3:56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a'm gwaedd.

3:57 Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna.

3:58 Ti, O ARGLWYDD, a ddadleuaist gyda'm henaid: gwaredaist fy einioes.

3:59 Ti, O ARGLWYDD, a welaist fy ngham: barn di fy marn i.

3:60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a'u holl amcanion i'm herbyn i.

3:61 Clywaist eu gwaradwydd, O ARGLWYDD, a'u holl fwriadau i'm herbyn;

3:62 Gwefusau y rhai a godant i'm herbyn, a'u myfyrdod i'm herbyn ar hyd y dydd.

3:63 Edrych ar eu heisteddiad a'u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.

3:64 Tâl y pwyth iddynt, O ARGLWYDD, yn ôl gweithred eu dwylo.

3:65 Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt.

3:66 Erlid hwynt a digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr ARGLWYDD.


PENNOD 4

4:1 Pa fodd y tywyllodd yr aur! y newidiodd yr aur coeth da! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol.

4:2 Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd