Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/780

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

geryddwr: canys ty gwrthryfelgar ydynt.

27 Ond pan lefarwyf wrthyt, yr agoraf dy safn, a dywedi wrthynt. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW: Yr hwn a wrandawo, gwrandawed; a'r hwn a beidio, peidied: canys ty gwrthryfelgar ydynt.


PENNOD 4

1 TITHAU fab dyn, cymer i ti briddlech, a dod hi o'th flaen, a llunia ami ddinas Jerwsalem:

2 A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o'i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch.

3 Cymer i ti hefyd badell haearn, a dod hi yn fur haearn rhyngot a'r ddinas; a" chyfeiria dy wyneb ati, a bydd mewn gwarchaeedigaeth, a gwarchae di ami. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel.

4 Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd ty Israel ami; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt.

5 Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phed»-war ugain: felly y dygi anwiredd ty Israel.

6 A phan orffennych y rhai hynny, gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau, a thi a ddygi anwiredd ty Jwda ddeugain niwrnod: pob diwmod am flwyddyn a roddais i ti.

7 A chyfeiria dy wyneb at warchaeedig- ap.th Jerwsalem, a'th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi.

8 Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, ncs gorffen ohonot ddyddiau dy warchae- edigaeth.

9 Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorwedd¬ych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef.

10 A'th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys, ugain sici yn y dydd: o amser i amser y bwytei ef.

11 Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran hin a yfi, o amser i amser.

12 Ac fel teisen haidd y bwytei ef; ti a'i cresi hi hefyd wrth dail torn dyn, yn eu gwydd hwynt.

13 A dywedodd yr ARGLWYDD, Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt.

14 Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o'm hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i'm safn gig ffiaidd.

15 Yntau a ddywedodd wrthyf, Wete, mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle torn dyn, ac a hwynt y gwnei dy fara.

16 Dywedodd hefyd wrthyf, Mab dyn, wele fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem, fel y bwytaont fara dan bwys, ac mewn gofal; ac yr yfont ddwfr dan fesur, ac mewn syndod.:

17 Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr, ac y synnont un gydag arall, ac y darfyddont yn eu hanwiredd.;


PENNOD 5

1 TITHAU fab dyn, cymer i ti gyllell lem, cymer i ti ellyn eillio, ac eillia dy ben a'th farf: yna y cymeri i ti glor-iannau pwys, ac y rhenni hwynt.

2 Traean a losgi yn tan yng nghanol y ddinas, pan gyflawner dyddiau y gwar¬chae; traean a gymeri hefyd, ac a'i trewi a'r gyllell o'i amgylch; a thraean a daeni gyda'r gwynt: a mi a dynnaf gleddyf at eu hoi hwynt.

3 Cymer hefyd oddi yno ychydig o nifer, a chlym.i liwynt yn dy odre.

4 A chymer eilwaith rai ohonynt hwy, a thafl hwynt i g.mol y tân, a llosg hwynt yn tân: ohono y daw allan dan i holl dy Israel.

5 y Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Jerwsalem yw hon: gosodais hi ymysg y cenhedloedd a'r tiroedd o'i hamgylch.