Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/781

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

6 A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na'r cenhedloedd, a'm deddfau yn fwy na'r gwledydd sydd o'i hamgylch: canys gwrthodasant fy marnedigaethau a'm deddfau, ni rodiasant ynddynt.

7 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Am i chwi amlhau yn fwy na'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch, heb rodio ohonoch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marnedigaethau, ac na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o'ch amgylch;

8 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Wele fi, ie, myfi, ydwyf yn dy erbyn, a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau yng ngolwg y cenhed¬loedd.

9 A gwnaf ynot yr hyn ni wneuthum, ac nis gwnaf ei fath mwy, am dy holl ffieidd-dra.

10 Am hynny y tadau a fwytant y plant yn dy fysg di, a'r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.

11 Am hynny, fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr a'th holl ffieidd-dra ac a'th holl frynti, am hynny hefyd y prinhaf finnau di; ac nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf chwaith.

12 Dy draean fyddant feirw o'r haint, ac a ddarfyddant o newyn, yn dy ganol; a thraean a syrthiant ar y cleddyf o'th amgylch: a thraean a daenaf gyda phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hoi hwynt.

13 Felly y gorifennir fy nig, ac y llonydd-af fy llidiowgrwydd yn eu herbyn hwynt, ac ymgysuraf: a hwy a gant wybod mai myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais yn fy ngwyn, pan orffennwyf fy llid ynddynt. .;.,

14 A rhoddaf di hefyd yn anrhaith, ac yn warth ymysg y cenhedloedd sydd o'th amgylch, yng ngolwg pawb a el heibio.

15 Yna y bydd y gwaradwydd a'r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i'r cenhedloedd sydd o'th amgylch, pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig, a llidiowgrwydd, a cherydd llidiog.. Myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.

16 Pan anfonwyf amynt ddrwg saethau newyn, y rhai fyddant i'w difetha, y rhai a ddanfonaf i'ch difetha: casglaf hefyd newyn arnoch, a thorraf eich ffon bara;

17 Anfonaf hefyd arnoch newyn, a bwystfil drwg; ac efe a'th ddiblanta di; haint hefyd a gwaed a dramwya trwot ti; a dygaf gleddyf arnat. Myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.


PENNOD 6

1 A DAETH gair yr ARGLWYDD ataf, gaa * ddywedyd,.

2 Mab dyn, gosod dy wyneb tua mynyddoedd Israel, a phroffwyda yn. eu herbyn,

3 A dywed, Mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD DDUW: Fel hya y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd; Wele fi, ie, myfi yn dwyn cleddyf arnoch, a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd.

4 Eich allorau hefyd a ddifwynir, a'ch haul-ddelwau a ddryllir: a c'nwympaf eich archolledigion o flaen eich eilunod.

5 A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod, a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau.

6 Yn eich holt drigfeydd y dinasoedd a anrheithir, a'r uchelfeydd a ddifwynir; fel yr anrheithier ac y difwyner eicb allorau, ac y torrer ac y peidio eich eilunod, ac y torrer ymaith eich haul" ddelwau, ac y dileer eich gweithredoedd.

7 Yr archolledig hefyd a syrth yn eich. canol; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

8 Eto gadawaf weddill, fel y byddo t chwi rai wedi dianc gan y cleddyf ymysg y cenhedloedd, pan wasgarer chwi ttwy y gwledydd.

9 A'ch rhai dihangol a'm cofiant i' ymysg y cenhedloedd y rhai y caeth.-gludir hwynt atynt, am fy nryllio a'u calon buteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthyf;; ac a'u llygaidy y rhai a. buteiniasant ar ôl' eu heilunod: yna yr ymffieiddiant ynr ddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd-dra.;

10 A chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD', ac na leferais yn