Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/787

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

allan liw dydd, fel offer caethglud; ac yn yr hwyr y cloddiais trwy y mur;i'm llaw: yn y tywyll y dygais. allan, ar fy ysgwydd y dygais o fiaen eu llygaid hwynt.

8 A'r bore y daeth gair yr ARQLWYB-D ataf, gan ddywedyd,

9 Ha fab dyn, oni ddywedodd t Israel, y ty gwrthryfelgar, wrthyt, Beth yr witt ti yn ei wneuthur?

10 Dywed di wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, I'r tywysqg yn Jerwsalem y mae y baich hwn, ac i holl d Israel y rhai sydd yn eu mysg.

11 Dywed, Eich arwydd chwi ydwyf fi; fel y gwneuthum i, felly y gwneis iddynt hwy: mewn caethglud yr ânt i gaethiwed.

12 A'r tywysog yr hwn sydd yn eit eanol a ddwg ar ei ysgwydd yn y tywyll, ac a a allan: cloddiant trwy y mur, i, ddwyn allan trwyddo: ei wyneb a guddia fel na welo efe y ddaear a'i lygaid.

13 A mi a daenaf fy rhwyd arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd: a dygaf ef t Babilon, tir y Caldeaid; ac ni wel efe hi, eto yno y bydd efe farw.

14 A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i'w gynorthwyo, a'i holl fyddinoedd, tua phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.

15 A hwy a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, wedi gwasgaru ohonof hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u taenu ar hyd y gwledydd.

16 Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y mynegont eu holl ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd, lle y delont: a gwybyddant mai myfi yw yr ARGLWYDD.

17 Gair yr ARGLWYDD hefyd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

18 Ha fab dyn, bwytei dy fara dan grynu, a'th ddwfr a yfi mewn dychryn a gpfal:

19 A dywed wrth bobl y tir, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am drigolion Jerwsalem, ac am wlad Israel; Eu bara a fwytant mewn gofal, a'u dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thir o'i chyflawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi.

20 A'r dinasoedd cyfanheddol a anghyf-anheddir, a'r tir a fydd anrheithiol; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

21 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

22 Ha fab dyn, beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel, gan ddywedyd, Y dyddiau a estynnwyd, a darfu am bob gweledigaeth?

33 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwnafi'r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth.

24 Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer, na dewiniaeth wenieithus, o fewn ty Israel.

25 Canys myfi yw yr ARGLWYDD: mi a iefaraf, a'r gair a lefarwyf a wneir; nid oedir ef mwy: oherwydd yn eich dyddiau chwi, O dy gwrthryfelgar, y dywedaf y gair, ac a'i gwnaf, medd yr ARGLWYDD DDUW.

26 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

27 Ha fab dyn, wele dy Israel yn dy-wedyd, Y weledigaeth a wôl efe fydd wedi dyddiau lawer, a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell.

28 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Nid oedir dim o'm geiriau mwy, ond y gair a ddywedais a wneir, medd yr ARGLWYDD DDUW.


PENNOD 13

1 A GAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2 Proffwyda, fab dyn, yn erbyn proff-wydi Israel, y rhai sydd yn proffwydo, a dywed wrth y rhai a broffwydant o'u calon eu hun, Gwrandewch air yr AR¬GLWYDD.

3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwae y proffwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun, ac heb weled dim.

4 Dy broffwydi, Israel, ydynt fel llwynogod yn yr anialwch.

5 Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel, i sefyll yn y. rhyfel ar ddydd yr ARGLWYDD.