Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/786

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yf a ddygaf arnoch, medd yr ARGLWYDD DDUW.

9 Dygaf chwi hefyd allan o'i chanol tii, a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid, a -gwnaf farn yn eich mysg.

10 Ar y cleddyf y syrthiwch, ar derfyn Israel y barnaf chwi: fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

11 Y ddinas hon ni bydd i chwi yn grochan, ni byddwch chwithau yn gig o'i mewn; ond ar derfyn Israel y barnaf chwi.

12 A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni rodiasoch yn fy neddfau, ac ni wnaethoch fy marnedigaethau; ond yn ôl defodau y cenhedloedd o'ch amgylch y gwnaethoch.

13 A phan broffwydais, bu farw Felatia mab Benaia: yna syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais a llef uchel, a dy-wedais, O ARGLWYDD DDUW, a wnei di dranc ar weddill Israel?

14 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

15 Ha fab dyn, dy frodyr, dy frodyr, dynion dy geraint, a holl dy Israel yn gwbl, ydyw y rhai y dywedodd preswylwyr Jerwsalem wrthynt, Ymbellhewch oddi wrth yr ARGLWYDD; i ni y rhodded y tir hwn yn etifeddiaeth.

16 Dywed am hynny, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Er gyrru ohonof hwynt ymhell ymysg y cenhedloedd, ac er gwasgaru ohonof hwynt trwy y gwledydd, eto byddaf yn gysegr bychan iddynt 'yn y gwledydd lle y deuant. . 17 Dywed gan hynny. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Casglaf chwi hefyd o fysg y bobloedd, a chynullaf chwi o'r gwledydd y'ch gwasgarwyd ynddynt, a Aoddaf i chwi dir Israel.; t8 A hwy a ddeuant yno, ac a symudant ei holl frynti hi a'i holl ffieidd-dra allan ohoni hi.

19 A rhoddaf iddynt un galon, ac ysbryd newydd a roddaf ynoch; tynnaf hefyd y galon garreg ymaith o'u cnawd hwynt, a rhoddaf iddynt galon gig:

20 Fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf DDUW iddynt hwy.

21 Ond am y rhai y mae eu calon yn myned ar ôl meddwl eu brynti a'u ffieidd-dra, rhoddaf eu ffordd hwynt ar eu pennau eu hun, medd yr ARGLWYDD DDUW.

22 Yna y cetiwbiaid a gyfodasant eu hadenydd, a'r olwynion yn eu hymyi a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.

23 A gogoniant yr ARGLWYDD a ymddyr-chafodd oddi ar ganol y ddinas, ac a safodd ar y mynydd sydd o'r tu dwyrain i'r ddinas.

24 Yna yr ysbryd a'm cododd i, ac a'm dug hyd Caldea at y gaethglud mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw. A'r weledigaeth a welswn a ddyrchafodd oddi wrthyf.;»

25 Yna y lleferais wrth y rhai o'r, gaethglud holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a ddangosasai efe i mi,


PENNOD 12

1 A GAIR yr ARGLWYDD a- ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2 Trigo yr wyt ti, fab dyn,yng nghanol t' gwrthryfelgar, y rhai y mae llygaid iddynt i weled, ac ni welant; clustiau iddynt i glywed, ac ni chlywant: canys ty gwrthryfelgar ydynt.

3 A thithau, fab dyn, gwna i ti offer caethglud, a muda liw dydd o fiaen eu llygaid hwynt; ie, muda o'th Ie dy hun i Ie arall yng ngwydd eu llygaid hwynt: nid hwyrach y gwelant, er eu bod yn dy gwrthryfelgar.

4 A dwg allan dy ddodrefn liw dydd yng ngwydd eu llygaid, fel dodrefn caethglud: a dos allan yn yr hwyr yng, ngwydd eu llygaid, fel rhai yn myned allan i gaethglud.

5 Cloddia i ti o flaen eu llygaid hwynt trwy y mur, a dwg allan trwy hwnnw.

6 Ar dy ysgwydd y dygi yng ngwydd eu llygaid hwynt, yn y tywyll y dygi allan: dy wyneb a guddi, fel na welych y ddaear: canys yn arwydd y'th roddais i dŷ Israel.

7 Ac mi a wneuthum felly fel y'm gorchmynnwyd: dygais fy offer