Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/785

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

an, fel swn Dew Hollalluog pan lefarai.

6 Bu hefyd, wedi iddo orchymyn i'r gŵr a wisgasid S lliain, gan ddywedyd, Cymer dan oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y ceriwbiaid; fyned ohono ef, a sefyll wrth yr olwynion.

7 Yna yr estynnodd un ceriwb ei law oddi rhwng y ceriwbiaid i'r tân yr hwn oedd rhwng y ceriwbiaid, ac a gymerth, ac a roddodd beth yn nwylo yr hwn a wisgasid a lliain: yntau a'i cymerodd, ac a aeth allan.

8 Sf A gwelid yn y ceriwbiaid lun llaw dyn dan eu hadenydd.

9 Edrychais hefyd, ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid, un olwyn wrth un ceriwb, ac un olwyn wrth geriwb arall: a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl.

10 A'u gwelediad, un wedd oedd iddynt ill pedair, fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn.

11 Pan gerddent, ar eu pedwar ochr y cerddent; ni throent pan gerddent, ond lle yr edrychai y pen, y cerddent ar ei ôl ef; ni throent pan gerddent.

12 Eu holl gnawd hefyd, a'u cefnau, a'u dwylo, a'u hadenydd, a'r olwynion, oedd yn llawn llygaid oddi amgylch; sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar.

13 Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy, sef ar yr olwynion, O olwyn. -14 A phedwar wyneb oedd i bob un; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb, a'r ail wyneb yn wyneb dyn, a'r trydydd yn wyneb Hew, a'r pedwerydd yn wyneb eryr.

15 A'r ceriwbiaid a ymddyrchafasant. Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar.

16 A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwytliau ni throent chwaith oddi wrthynt.

17 Safent, pan safent hwythau, a chodent gyda hwy, pan godent hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt.

18 Yna gogoniant yr ARGLWYDD a aeth allan oddi ar riniog y tŷ, ac a safodd ar y ceriwbiaid.

19 A'r ceriwbiaid a godasant eu had¬enydd, ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid: a'r olwynion oedd yn eu hymyi, pan aethant allan: a safodd poh un wrth ddrws porth y dwy- rain i dŷ 'yt ARGLWYDD; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.

20 Dyma y peth byw a welais dan DDUW Israel, wrth afon Chebar: a gwybum mai y ceriwbiaid oeddynt.:

21 Pedwar wyneb oedd i bob un, a phedair adain i bob un, a chyffelybrwydd dwylo dyn dan eu hadenydd. '

22 Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt a hwythau: cerdd-ent bob un yn union rhag ei wyneb.


PENNOD 11

1 YNA y'm cyfododd yr ysbryd, ac y'm dug hyd borth dwyrain t yr AR¬GLWYDD, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain: ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur, a Phelatia mab Benaia, tywysogion y bobl.

2 Ac efe a ddywedodd wrthyf. Ha fab dyn, dyma y gwŷr sydd yn dychmygu anwiredd, ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddinas hon:

3 Y rhai a ddywedant, Nid yw yn agos; adeiladwn dai; hi yw y crochan, a ninnau y cig.

4 Am hynny proffwyda f-w herbyn hwynt, proffwyda, fab dyn.; ..

5 Yna y syrthiodd ysbryd yr AR¬GLWYDD arnaf, ac a ddywedodd wrthyf, Dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ty Israel, fel hyn y dywedasoch: canys mi a wn y pethau sydd yn dyfod i'ch meddwl chwi, bob un ohonynt.

6 Amlhasoch eich lladdedigion o fewn y ddinas hon, a llanwasoch ei heolydd hi a chelaneddau.

7 Am hyriny, fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Eich lladdedigion y rhai a osodasoch yn ei chanol hi, yw y cig; a hithau yw y crochan: chwithau a ddygaf allan o'i chanol.

8 Y cleddyf a ofnasoch, a'r cledd-