Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/784

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

eto, cei weled ffieidd-dra mwy na hyn.

16 Ac efe a'm dug i gyntedd ty yr AR¬GLWYDD oddi fewn, ac wele wrth ddrws teml yr ARGLWYDD, rhwng y porth a'r allor, ynghylch pumwr ar hugain, a'u cefnau tuag at deml yr ARGLWYDD, a'u hwynebau tua'r dwyrain; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i'r haul tua'r dwyrain.

17 y Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? ai peth ysgafn gan d Jwda wneuthur y ffieidd-dra a wnant yma? canys llanwasant y tir a thrais, a gwrthdroesant i'm cyffroi i; ac wele hwy yn gosod blaguryn wrth eu trwyn.

18 Minnau hefyd a wnaf mewn Ilid: nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf: ac er iddynt lefain yn fy nghlustiau a llef uchel, ni wrandawaf hwynt.


PENNOD 9

1 E.EFODD hefyd a llef uchel lle y clywais. gan ddywedyd, Gwnewch i swyddogion y ddinas nesau, a phob un a'i arf dinistr yn ei law.

2 Ac wele chwech o wyr yn dyfod o ffordd y porth uchaf, yr hwn sydd yn edrych tua'r gogledd, a phob un a'i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo a lliain, a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun; a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor bres. '

3 A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y ty. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo a lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun:

4 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, DOS trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a noda nod ar daloennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd-dra oll a wneir yn ei chanol hi.

5 Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais, Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef, a threwch; nac arbeded eich llygad, ac na thosturiwch.

6 Lleddwch yn farw yr henwr, y gŵr ieuanc, a'r forwyn, y plant hefyd, a'r gwragedd; ondna ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo'r nod arno: ac ar fy nghysegr y dechreuwch. Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen, y rhai oedd o flaen y ty.

7 Dywedodd wrthynt hefyd, Halogwch y tŷ, a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig: ewch allan. Felly hwy a aethant allan, ac a drawsant yn y ddinas.

8 A bu, a hwy yn lladd, a'm gado innau, i mi syrthio ar fy wyneb, a gweiddi, a dywedyd, O ARGLWYDD DDUW, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?

9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Anwiredd ty Israel a thŷ Jwda sydd fawr dros ben; a llawn yw y tir o waed, a llanwyd y ddinas o gamwedd: oherwydd dywedant, Gwrthododd yr ARGLWYDD y ddaear, ac nid yw yr ARGLWYDD yn gweled.

10 Ac amdanaf fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau.

11 Ac wele, y gŵr wedi ei wisgo a lliain, yr hwn yr oedd y corn du wrth ei glun, yn dwyn gair drachefn, gan ddy¬wedyd, Gwneuthum fel y gorchmynnaist i mi.


PENNOD 10

1 YNA yr edrychais, ac wele yn y ffurf-afen, yr hon oedd uwchben y ceriwbiaid, megis maen saffir, fel dull cyffelybrwydd gorseddfa, a welid amynt hwy.

2 Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid a lliain, ac a ddywedodd, DOS i mewn rhwng yr olwynion, hyd dan y ceriwb, a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid, a thaena ar y ddinas. Ac efe a aeth o flaen fy llygaid.

3 A'r ceriwbiaid oedd yn sefyll o du deau y tŷ, pan aeth y gŵr i mewn; a'r cwmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn.

4 Yna y cyfododd gogoniant yr ARGLWYDD oddi ar y ceriwb, ac a safodd oddi ar riniog y ty; a'r tf a lanwyd a'r cwmwl, a llanwyd y cyntedd o ddis-gleirdeb gogoniant yr ARGLWYDD.

5 A swn adenydd y ceriwbiaid a gly-buwyd hyd y cyntedd nesaf all-